
Y Coridor Ansicrwydd
Y Coridor Ansicrwydd
Taniwch y sigârs... mae Caerdydd i fyny yn barod!
29 January 2026
47 minutes
Available for 352 days
Ar ôl buddugoliaeth swmpus ganol wythnos i Gaerdydd, mae'r criw yn dechrau meddwl bod dyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth yn anochel yn barod. Maen nhw ar "lefel uwch" yn ôl Malcolm Allen, tra bod Owain Tudur Jones yn credu bod popeth "rhy hawdd" i'r Adar Gleision ar hyn o bryd. Y rheolwr Brian Barry-Murphy sy'n cael y clod i gyd am drawsnewid canlyniadau'r clwb... ond ydi'r llwyddiant yma yn peryglu ei ddyfodol hirdymor yn y brifddinas?
Tydi pethau ddim mor hawdd i Abertawe, yn sicr pan maen nhw'n chwarae oddi cartref. Sut all yr Elyrch wella'r record druenus o dair buddugoliaeth mewn 14 gêm? Does dim problem debyg i Wrecsam wrth iddyn nhw ddangos cymeriad drwy frwydo'n ôl unwaith eto i sicrhau buddugoliaeth anhygoel i godi i'r chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth. Ond ar ôl buddugoliaeth i godi hyder ddydd Sadwrn, roedd 'na ergyd drom eto i Gasnewydd wrth golli ganol wythnos.
Ac ar drothwy rownd wyth olaf Cwpan Cymru, mae 'na sawl clwb o'r is-gynghreiriau yn breuddwydio am godi'r cwpan ac am daith fythgofiadwy i Ewrop.
