Gwneud Slalom Beth am ddarganfod pa un o'r losin ydi'r cyflyma! Gwnewch Slalom Losin i brofi hyn!...
Bydd angen... 6 rolyn cegin Bocs cardfwrdd gwag Tâp gludiog Glud Tudalennau i'w hargraffu Pensiliau lliw/paent Siswrn diogelwch Losin! Marshmallows, taffi
Cyfarwyddiadau: 1. Cymerwch 6 rholyn cegin a gofynnwch i oedolyn i'ch helpu i dorri ar draws pob pen ar ongl.
2. Lliwiwch 3 rholyn o'r papur cegin mewn lliwiau o'ch dewis chi.
3. Ar ôl i'r paent sychu, gludiwch nhw gyda'i gilydd mewn llinell.
4. Ar un pen torrwch allan y geg, ac yna ychwanegu'r tafod a llygaid y neidr! Gofynnwch i oedolyn i'ch helpu i dorri allan.
5. Mi fydd yn rhaid ichi ail wneud camau 2 i 4 ar gyfer y 3 rholyn cegin arall, a'u rhoi ar un ochr.
6. Cymerwch y bocs cardfwrdd a thorrwch allan siapau hanner cylch sy'n ffitio eich neidr (gweler y llun) Gofynnwch i oedolyn i'ch helpu i dorri allan y siapau a rhoi'r nadroedd i mewn i'r bocs.
7. Lliwiwch y bocs mewn lliw lliwgar ac yna ei adael i sychu.
8. Argraffwch y tudalennau stensil, ac yna eu lliwio gan ddefnyddio'r pensiliau.
9. Rhowch glud ar y lluniau a'u gosod ar y bocs - mi fydd yn edrych yn wych!
10. Gludiwch y neidr wedi ei wneud o'r rholyn cegin a'i ffitio i mewn i'r bocs.
A dyna chi! - mae'n bryd ichi roi cynnig ar eich ras Slalom Losin arbennig chi! Allwch chi ddyfalu pa losin fydd yn ennill?
Y rheswm pam bod y losin yn syrthio i lawr drwy'r rolyn cegin yw oherwydd disgyrchiant.
Mae disgyrchiant yn rym cudd sy'n gwneud pethau ddisgyn i lawr i'r ddaear. A dyna'r rheswm nad ydym yn arnofio fel y mae pobl yn gwneud yn y gofod, lle nad oes disgyrchiant. Mae gwrthrychau trymach yn disgyn i'r ddaear yn gynt. Beth am i chi geisio rasio gyda gwahanol fathau o losin a gweld pa un yw'r cyflymaf! Enillydd y ras honno fydd y trymaf hefyd.
|  |
|