Stori'r Tywydd Helo! Pwy ydych chi? Wel ie, chi sy yno! Be am weld sut dywydd sydd yn Balamory heddiw?
Mae'n wyntog heddiw Allwch chi ddyfalu pa'r un o'r rhain y byddwn yn eu defnyddio ar ddiwrnod gwyntog? Dewiswch un o'r rhain Sbectol haul Ambarél Melin wynt Dyn Eira
Wel edrychwch! - rydych chi wedi dod o hyd i'r melin wynt. Chwythwch ar y felin wynt i'w gweld yn troi.
Gwrandewch! Ydych chi'n clywed rhywbeth? Dwi'n meddwl bod gennym ymwelydd yn y feithrinfa… …... wel oes wir - dyma PC Plum!
Mae Plum yn dweud ei bod yn ddiwrnod ofnadwy o wyntog allan heddiw. Mae diwrnod gwyntog yn berffaith ar gyfer hedfan barcud, ond does dim barcud gan PC Plum. Ceisiodd brynu barcud yn y siop ond doedd dim un ar ôl.
Tybed pwy yn Balamory fyddai'n gwybod sut i wneud barcud? Archie? Penny? Spencer?
Wrth gwrs! - be am Archie y dyfeisiwr? Mi all o greu barcud! Felly mae'n iawn i PC Plum ofyn i Archie sut i wneud barcud! Y cam cyntaf fydd i PC Plum fynd ar ei feic i dy pinc Archie.
Edrychwch! Mae Archie gartref, ac mae ganddo'r cynhwysion perffaith i wneud barcud: 2 ddarn o bren Bag plastig mawr Ac ychydig o dâp gludiog!
Mae Archie yn croesi'r priciau drosodd a'u gludo! Yna, mae'n rhoi bag plastig dros y priciau, a'i gludo i'r priciau gyda tâp gludiog.
Mae barcud Archie'n edrych yn dda yn tydi!! Ond, dwi'n meddwl bod rhywbeth ar goll. Mae Archie a PC Plum yn cytuno hefyd. Tybed pwy fyddai'n fodlon gwerthu rhywbeth iddynt i'w helpu? Penny Pocket Josie Jump Edie Mc Credie Wrth gwrs! - Penny Pocket yn y siop!
Mae 'na gymaint o drugareddau yn siop Penny Pocket, ond be all PC Plum ei ddefnyddio i rwystro'r barcud rhag hedfan i ffwrdd? Pelen o gortyn Losin/taffi Papur newydd? Pelen o gortyn wrth gwrs! - mi fyddai PC Plum yn gallu clymu un ochr i'r cortyn, a dal yr ochr arall!
Be ydy hwn? Mae gan Penny ruban hyfryd hefyd. Wel! Mae hwn yn fendigedig! Mae'r rhuban wedi gwneud cynffon ddel iawn i barcud Plummy! Diolch yn fawr, Penny!
Mae PC Plum wedi penderfynu mynd â'r barcud i ben bryn Balamory, ac edrychwch ar yr holl bobl sydd yno, a maen nhw i gyd yn hedfan eu barcud! Edrychwch ar yr holl liwiau... sawl barcud allwch chi eu gweld?
Wel, am ddiwrnod gwyntog braf! Gobeithio eich bod wedi mwynhau hedfan eich barcud gyda ni. Hwyl fawr!
Beth ydy'r stori yn Balamory heddiw? I ddechrau, daeth PC Plum i mewn i'r Feithrinfa. Roedd PC Plum yn awyddus i hedfan barcud, ond methodd brynu un yn y siop, gan eu bod i gyd wedi eu gwerthu. Penderfynodd ymweld ag Archie i weld os allai wneud barcud. Fe wnaeth Archie a PC Plum farcud bendigedig, ond roedd angen cortyn arnynt, er mwyn ei hedfan. Gwerthodd Penny Pocket ychydig o gortyn iddynt, a rhuban del ar gyfer cynffon y barcud. Dringodd PC Plum i fyny'r allt yn Balamory er mwyn hedfan ei farcud gyda phawb arall! A dyna oedd y stori yn Balamory heddiw.
|  |
|