|  |  |  |  |  |  
Beth yw arbedwr sgrîn?Ymwadiad | 
Arbedwr Sgrîn (Windows - 1.09MB) |  | 1. Cliciwch ar y ffeil 'zip' uchod er mwyn gweld y ffenestr llwytho. Cliciwch ar yr opsiwn 'save this file to disk'. Dewiswch leoliad ar eich disg galed a chliciwch 'ok'.
2. Ar ôl i'r ffeil lwytho i'ch pen-bwrdd, defnyddiwch y 'file manager' neu 'windows explorer' i ddod o hyd i'r copi o'r ffeil, ac yna ei agor. Bydd y ffeil 'zip' yn cynnwys rhaglen o'r enw 'setup.exe'.
3. Wedi i'r gosodiad gwblhau, dylai newid i'ch arbedwr sgrîn rhagosodedig. Er mwyn gwell ansawdd byddwch angen rhedeg isafswm cydraniad sgrîn o 800 x 600 pixel, a gosod dyfnder lliw i o leiaf 16Bit/High Colour. Rydym yn cynghori hefyd ichi redeg gosodiadau uwch o 24 Bit neu 32bit / True Colour ar gyfer y lliw gorau phosib.
Beth yw arbedwr sgrîn? Mae'r arbedwr sgrîn (‘screensaver') ar gyfer anghenion difyrrwch adloniant yn unig a'r bwriad yw ei ddefnyddio ynghyd â'r nodwedd 'powersave' ar eich sgrîn. Os yw'r nodwedd 'powersave' yn weithredol ar eich cyfrifiadur, bydd y sgrîn yn mynd yn wag ar ôl ychydig o funudau wedi i chi orffen gweithio, sy'n golygu fod eich sgrîn wedi ei diogelu.
Er hynny, ni fydd arbedwr sgrîn Balamory yn gallu arbed y ffosfforau, y 'phosphors', yn eich sgrîn. Os nad oes y nodwedd 'powersave' ar eich sgrîn (h.y. dyw'r sgrîn ddim yn cau i lawr ar ôl ychydig o funudau wedi i chi orffen gweithio) mae'n werth i chi ddefnyddio arbedwr sgrîn rheolaidd sydd â delwedd symudol cyson er mwyn diogelu eich sgrîn.
Ymwadiad Mae'r BBC wedi cymryd pob gofal rhesymol i sicrhau nad yw Arbedwr Sgrîn BBC Balamory yn cynnwys unrhyw wallau, firws, neu ddiffygion, er hynny, nid yw'r BBC yn warantu mai dyna'r achos. Cynghorir chi i sicrhau eich bod yn cymryd gofal i ddiogelu eich cyfrifiadur rhag haint firws. Ni fydd y BBC yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod y gellir ei achosi o ganlyniad i gysylltiad, neu o ddefnyddio'r meddalwedd.
|  |  |  |  |
|  | |