"Mae'r gwaith â chyswllt pendant â'r ffaith fy mod wedi gadael y tirwedd gwledig ers i mi symud i fyw i'r ddinas.

"Cofnodau statig o lampau stryd ydynt yn ystod y cyfnod gwyll/gwawr ar adeg pan maent ar fin dod ymlaen neu wedi gwneud hynny. "Mae cyn lleied o 'ddigwydd' yn y gwaith fel bod ein dychymyg yn drên.
"Nid yw'r ddinas byth yn wirioneddol dywyll a byddwn yn osgoi tywyllwch dudew'r nos gyda goleuadau stryd.
"Mae synhwyrydd ar bob golau'n sylweddoli pan fo lefelau'r golau'n mynd yn isel a bydd golau artiffisial yn cael ei danio, gan gofnodi'r trawsnewid i dywyllwch a'n diogelu ni rhagddo. Mae darn fideo hefyd yn cyfeirio at y pryder hwn yn y cyfnos.
"Wedi ei ffilmio yn y ddinas, gwelwn ddathlwyr noson hwyr / bore cynnar wrth iddynt fynd tuag adref yn yr oriau mân.
"Yma daeth y wawr i nodi diwedd y nos yn hytrach na dechrau'r dydd."