 | 
![]()

![]()
|  | Arddangoswr: Julian Walker Mae gwaith Julian Walker yn ymwneud â natur gwrthrychau a nodweddion yr ydym yn eu gosod ynghlwm wrthynt.
 Mae ganddo ddiddordeb penodol yn y berthynas rhwng gwrthrychau, testun a'r gorffennol, gan edrych ar syniadau fel hierarchaeth iaith a'r synnwyr o bresenoldeb corfforol sy'n bodoli mewn pethau. Mae ei waith yn cynnwys gosodweithiau bychan a rhai ar raddfa eang, perfformiad fideo a chydosodiad traws diwylliannol; bu'n gweithio mewn nifer o amgueddfeydd blaenllaw, yn cynnwys yr Amgueddfa Brydeinig, Amgueddfa Lerpwl, Kettles Yard, a'r Amgueddfa Astudiaethau Natur lle mai ef oedd yr arlunydd preswyl cyntaf. Fe'i dewiswyd ar gyfer y New Contemporaries yn1999, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae ei waith wedi cael ei arddangos yn Hastings, Nottingham, Berlin, Llundain a Gwlad yr Iâ.
|
 |