"Un o brif nodweddion y gemwaith yw'r elfen annisgwyl elfen ddrudfawr gyfrinachol, a all fod yn eiriau a gaiff eu gwisgo nesaf at y croen neu eu cuddio yn gyfan gwbl, neu yn dafelli o aur 22 carat nad ydynt bob amser yn amlwg braint y gwisgwr yn unig yw eu gweld yn iawn.

"Ysbrydolwyd y cynlluniau gan y gerdd Dadeni gan Mererid Hopwood, enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2001. "O fewn y cynlluniau mae geiriau'r gerdd wedi eu hysgythru i raddau gwahanol o ddyfnder ac eglurder, gan gyflwyno aur ac ocsidiad i rubanau o arian coeth, gyda'r aur yn fynegiant o natur werthfawr y geiriau ar ocsidiad yn gwyrdroi'r berthynas draddodiadol rhwng yr inc ar papur.
"Mae'r rubanau eu hunain yn creu darnau o emwaith sy'n gynrychiolaeth weledol o'r gair llafar mewn metal ac yn osodiadau unigryw ynddynt eu hunain.
"Yn ffurf y darnau, yn ogystal â pherthynas rhwng y darnau a'r un syn eu gwisgo, ceir adlewyrchiad o syniad hanfodol y gerdd."