Arddangoswr: Michele Wright "Mi wnes i ddechrau tynnu lluniau du a gwyn pan oeddwn i tua 14. "Byddaf wrth fy modd yn tynnu lluniau pobl gan eu bod yn fy nghyfareddu. "Byddaf yn hoffi eu dangos fel ag y maent, yn eu cynefin. "Mae gonestrwydd yn bwysig i mi ac ni fyddaf byth yn symud unrhyw beth allan o'r ffordd.
"Byddaf bob amser wrth fy modd pan fo fy lluniau'n dal sylw'r gwyliwr - yn ennyn eu diddordeb neu'n gwneud iddynt chwerthin. "Nid rhoi 'sgytwad yw fy mwriad ond yn hytrach i ddiddori'n dawel fach."
Katrina Allen Enillydd yr Ysgoloriaeth Bensaernïaeth 2002.
Paul de Hoxar Arddangoswr yn yr Adran Bensaernïaeth yw Paul de Hoxar. Roedd Vincent Bouvellec, Brian Evans, Ian Eggleton a Corin Yarrow wedi cynorthwyo Paul gyda'i brosiect, ac mi fyddai'n hoffi cydnabod eu rhan yn y gwaith.
Pembroke Design Cyf Enillydd Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth - (Gwobr Goffa Alwyn Lloyd).