Ffŵl - Ffyliaid - Ffolineb Gweler Doethineb hefyd
Y mae tafod y doeth yn clodfori deall ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb. Diarhebion:15:2
Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr. Diarhebion 15:21
Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn. Diarhebion 17:7
Y mae pwysau mewn carreg a thywod yn drwm, ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau. Diarhebion 27:3
Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun. Diarhebion 26:5
Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵl yn torri ymaith ei draed ei hun. Diarhebion 26:6
Ffydd
Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. Hebreaid 11:1
Pe bai gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, 'Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y môr,' a byddai'n ufuddhau i chwi. Luc 17:7
Ffyddlondeb
Os gadewch yr Arglwydd a gwasanaethu duwiau estron, bydd yn troi yn eich erbyn a gwneud niwed i chwi ac yn eich difodi, er yr holl dda a wnaeth i chi. Josua 24:20