Magi a Glyn
Ebrill 28, 2007
Glyn Wise a Magi Dodd... a lolipops!
28.04.07 - 5 awr 2 funud a 44 eiliad!!
Syth ar ôl rhaglen dydd Sadwrn es i draw i Lundain ar gyfer cyfarfod fy rhieni cyn y marathon. Oedd yn rhaid i fi fynd draw i Lundain diwrnod cyn y ras er mwyn nôl fy rhif a pethau eraill gan y trefnwyr. Dydd Sul - byth eto!! Nes i ddeffro yn y bore yn teimlo ychydig bach yn nerfus, roedd y tywydd yn boeth iawn, ac roedd y syniad o redeg y marathon yn y gwers yn gwneud i fi deimlo'n sâl. Ar ôl dweud ta ta wrth Mam a Dad yn y gwesty, nes i ddal tren i'r llinell gychwyn. wel dyna lle o ni'n meddwl bo fi'n mynd! Nes i ffonio Daf Du i ddweud wrtho fo fy mod i ar y ffordd, ond ddudodd o fy mod i ar y tren anghywir yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Panicio wedyn!! Nes i gyrraedd y llinell gychwyn cywir ugain munud ar ôl i'r ras gychwyn.
Faswn i byth wedi gallu gorffen y ras heb yr holl gefnogaeth oeddwn i'n ei gael gan y miloedd o bobl oedd yn sefyll ar hyd y daith. O ni'n meddwl fy mod i'n rhedeg yn reit dda, nes i fi weld arwydd yn dweud - 'You are now halfway'. Wedyn fatha rhanfwyaf o redwyr ges i gramp! Oedd Dad wedi dweud wrthai y bydda fo a Mam yn sefyll ar 'London Bridge' yn disgwyl amdanai, ond weles i mohonyn nhw a dechrau ypsetio dipyn bach!
Dyna'r 5 awr 2 funud a 44 eiliad hiraf fy mywyd - byth eto!! Syth ar y tren wedyn yn ôl i Gaerdydd a syth i gwely!
Gwneud fawr ddim byd dydd llun, ond aros yn y gwely, nes i godi i fynd am fassage gan fod fy nghoesau i yn stiff iawn!
Fe dda'th Imogen draw i fy ngweld i dydd Iau. Aethon ni am fwyd i Nandos yn y bae, un o hoff lefydd bwyd y ddau ohonom ni. Nath Imogen ddim bwyta lot gan ei bod hi ar diet. Nol i'r flat i wylio ychydig bach o Big Brother cyn i ni fynd am jacuzzi!
Dydd Gwener nes i ffilmio hysbyseb ar gyfer yr ymgyrch 'Rhowch Waed'. Ges i fynd wedyn efo Imogen a Simon Weston i weld gem rygbi y Gweilch yn erbyn Caerlyr, ges i gwpwl o beints tra oeddwn ni yna, ond gath Imogen ddim gan ei bod h'n trio colli pwysau!
Baftas heno, dwi'n mynd draw i westy St Davids yn y bae ar ôl y rhaglen i gyfarfod Imogen a chriw ffilmio'r rhaglen ddogfen gyda fy tux! Gewch chi' hanes i gyd wythnos nesaf.
Tan tro nesaf!
Hwyl
Glyn
x

28.4.07 - Pethau neis a phethau sy ddim yn neis Dyma sy'n neud fi'n hapus ar hyn o bryd;
Yr Haul Cael tan euraid ar fy ngwyneb.. cuddio gymiant o bechodau Yfed g'n'ts yn yr haul gyda fy ffrindiau Mynd i Barc y Rhath gydag Alun ar b'nawn Sul braf i ddarllen y papurau trashi Chwerthin tan bo fi'n crio Paratoi i fynd i Gyprus gydag Alun ar gyfer priodas fy chwaer Paratoi i fynd i Verona gydag Alun ar gyfer priodas Bryn Dewisiadau cerddorol diweddar BB Aled ar raglen Daf Nos Wener Beyonce a Shakira - Beautiful Lier Remix Mynd i gigs Primark Esgidiau Peacoks Gordon Ramsey Albym 'Bore Da' gan Euros Childs Hufen Ia Mars Meddwl am Eisteddfod Gen Neges y Lost Prophets i fi ar Uned 5 Anifeiliaid Straeon Glyn Wise Cael post yn y bore (sy ddim yn bils) Tyra Banks Grangetown Nandos Cylchgronau trashi llawn llunie o selebs size zero Alun Jones Dyma'r pethe sy'n neud fi'n anhapus ar hyn o bryd;
Cynhesu byd eang (ife dyna pam ma' hi mor braf?) Canser y croen (dylech chi wastad wisgo SPF) Gorfod gweithio pan mae'n braf tu fas Hangovers Morgrug Pobol sy'n gallu bwyta unrhywbeth heb roi pwyse arno (Alun e.e) Colli dillad Hongian dillad yn y cwpwrdd Prinder lle i f'esgidiau yn fy nhy Pobol sy'n chwerthin chydig bach rhy uchel - a chi'n gwybod bod e'n ffals-laff Sgraps yn Primark (wir, fi wedi cael mwy nag un) Creulondeb i anifeiliad America's Next Top Model yn dod i ben Cael llythyrau cas off y banc Bod yn sgint myspace Beyonce a Shakira - Beautiful Lier (y fersiwn wreiddiol) Codi'n gynnar Merched sy ond yn enwog am dynnu eu dillad.. Abi Tittmus unrhywun? Dewch nol i'r dudalen hon yn ystod yr haf gyfeillion. Nai ychwanegu at y ddwy restr yn wythnosol. Hoffwn bwysleisio mai fy marn i yw'r uchod. Just be fi'n hoffi a ddim yn hoffi. Dyw e ddim yn farn y BBC na neb arall. Just fi. Good
Tata
Magi
x
Mynd yn ôl i brif dudalen wythnos Glyn Wise