cau'r ffenestr
pwyso argraffu, yna cau'r ffenestr


Gwneud Tamba sy'n neidio

Bydd angen:
  • Rhannau o’r corff i’w hargraffu
  • Lastig cryf
  • Tiwb cardfwrdd
  • Gwelltyn yfed
  • Defnydd ffwr melyn
  • Pluen felen
  • Cerdyn lliw melyn a phiws
  • Peli pom pom piws
  • Paent
  • Tâp gludiog
  • Glud PVA
  • Darnau o arian 5c
  • Pasta sych
  • Siswrn diogelwch


  • Gofynnwch i oedolyn i’ch helpu i wneud hyn.

    1. Cymerwch diwb cardfwrdd a’i dorri yn ei hanner gan ddefnyddio siswrn diogelwch.
    Ar un ochr o’r tiwb, gwthiwch bensil trwy’r canol i wneud twll drwodd i’r ochr arall. Gofynnwch i oedolyn i’ch helpu efo hyn. Paentiwch y tiwb yn biws.

    2.Cymerwch ddarn hir o lastig, a rhowch gwlwm ar un pen, ac yna ei dynnu drwy’r twll yn y tiwb. Dylai’r cwlwm ddal y lastig yn ei le fel bod modd i’r tiwb grogi ohono.
    Gofynnwch i oedolyn i’ch helpu i dorri dau doriad, un ar bob ochr o’r tiwb

    3.Torrwch allan siapau adenydd o’r dudalen ar gyfer eu hargraffu. Rhowch nhw i lawr ar gerdyn piws a gwneud amlinelliad o'u cwmpas.
    Torrwch siapau’r adenydd allan o’r cardfwrdd piws, ac yna eu rhoi i mewn yn y toriad yn y tiwb. Rhowch ychydig o dâp gludiog oddi mewn y tiwb i’w cadw yn eu lle.

    4.Gofynnwch i oedolyn i wneud twll bach yng nghornel uchaf bob adain.
    Plygwch yr adenydd i lawr, ac yna glynu darn o arian 5c i waelod pob adain i’w wneud yn drwm.
    Torrwch allan ychydig o ffwr melyn, a’i lynu ar waelod pob adain. Os nad oes ffwr gennych, beth am ddefnyddio papur lliw?

    5.Cymerwch mwy o lastig, a rhowch gwlwm ar un pen, ac yna ei dynnu drwy’r twll yn yr adain. Cysylltwch o i’r darn lastig sy’n crogi o’r canol. Cofiwch ei gysylltu yn ddigon llac fel bod yr adain yn rhydd. Gwnewch yn un peth gyda’r adain arall. Torrwch i ffwrdd unrhyw lastig sy’n ormod.

    Felly, pan fydd y tiwb yn crogi o’r lastig, mi ddylai godi’r adenydd i fyny.

    6.Gwnewch amlinelliad o amgylch un pen o’r tiwb a’i drosglwyddo ar gardfwrdd piws i wneud cylch.

    Rhowch ychydig o lud ar y cylch, a’i ludo dros un pen o’r tiwb. Ar ôl iddo sychu, rhowch lenwad o basta sych oddi mewn i’r tiwb i’w wneud yn drwm. Gludwch yr ail gylch dros y pen arall o’r tiwb. Gadewch iddo sychu.

    Nawr mae corff Tamba yn barod!

    7.Argraffwch rannau o gorff Tamba. Gludwch y siapau, sef y goes a’r gynffon ar ddarn o gardfwrdd piws. Torrwch nhw allan, a’u gludo ar y corff. (yr ochr piws ar i fyny) Gludwch yr ewinedd a’r siapau cen ar y cerdyn melyn. Torrwch nhw allan, a'u gludo ar y cynffon a'r coesau.

    8.Gludwch y siapau clustiau ar gerdyn piws. Torrwch nhw allan, a’u gludo ar flaen y corff (yr ochr biws ar i fyny) Fe allwch ychwanegu ychydig o gerdyn melyn oddi mewn hefyd.

    9.Cymerwch y pom pom piws, a’i ludo ar flaen y clustiau i wneud pen Tamba. Torrwch pom pom arall yn ei hanner a gludwch hanner ohono ar y pen, i wneud y trwyn. Os nad oes pom pom's gennych, beth am ddefnyddio gwlân cotwm neu beli papur?
    Torrwch dau ddarn o welltyn i wneud y trwyn, a’u gludo ar y trwyn. Hefyd, gludwch y llygaid a’r bluen felen ar dop y pen - yn union fel gwallt Tamba.

    Os nad oes gennych lygaid meddal mawr, beth am arlunio rhai ar gerdyn ac yna eu hychwanegu ar wyneb Tamba? Hefyd, os nad oes gennych bluen ar gyfer y gwallt, defnyddiwch stribedi o bapur melyn wedi eu torri yn ei le!

    10. A dyna chi - mae Tamba yn barod! Gafaelwch yn Tamba gyda’r cortyn lastig. Beth am i chi ysgwyd Tamba i fyny ac i lawr i weld yr adenydd yn symud?

BBCbbc.co.uk/cymru/tikkabilla© 2005  
Trending Now