Wynebau bys Anifail
Bydd angen:- Cylchoedd lliw gludiog
- Pensil ffelt du
- Pensil
- Tâp gludiog
- Cerdyn llwyd
- Cerdyn glas
- Cerdyn gwyn
- Eich bysedd!
Cofiwch ofyn i oedolyn i’ch helpu gyda hyn.
I wneud wyneb bys Eliffant bydd angen:
1. Gwnewch lun o glustiau 2 eliffant ar ddarn o gerdyn llwyd.
2. Torrwch allan y siapau gyda siswrn diogelwch
3. Cymerwch 2 sticer cylch glas a gludo un ar bob clust.
4. Rhowch y sticeri ar gymal eich bys canol.
5. Torrwch siâp triongl bychan allan o ddarn o gerdyn gwyn. Defnyddiwch dâp gludiog i lynu hwn ar gefn eich bys i wneud ysgithr (dant hir) yr eliffant.
6. Gyda’r pensil ffelt du, rhowch 2 smotyn ar y sticeri glas i wneud llygaid yr eliffant. Nawr, gwnewch 2 linell ar eich ewinedd i wneud y trwnc. I wneud traed yr eliffant, tynnwch lun y bodiau ar y 2 fys bob ochr i ben yr eliffant.
A dyna chi - rydych wedi gorffen yr eliffant. Os wnewch chi godi eich bys canol, fe welwch chi eich eliffant yn symud ei drwnc!
I wneud wyneb bys llyffant bydd angen:
1. Cymerwch 2 sticer cylch gwyrdd, a rhowch ddotiau du arnynt gyda phensil ffelt - dyma fydd llygaid eich llyffant.
2. Gludiwch y llygaid ar y cylchoedd gwyrdd mawr gyda'r glud arnyn nhw.
3. Gludiwch ben y llyffant ar flaen eich bys canol.
4. Defnyddiwch bensil ffelt du i roi'r geg ar ben eich llyffant. A dyna chi - rydych wedi gorffen gwneud y llyffant!
5. Beth am i chi wneud mwy o lyffantod - un ar bob bys? Beth am i chi lunio wyneb hapus neu drist gan newid siâp y geg ar bob un?
I wneud wyneb bys Cwningen bydd angen:
1. Gwnewch lun o glustiau 2 gwningen ar ddarn o gerdyn glas.
2. Torrwch allan y siapau o glustiau'r gwningen gyda siswrn diogelwch.
3. Cymerwch 2 sticer cylch glas a gludo un ar bob clust. A dyma sut i wneud wyneb eich cwningen.
4. Torrwch siâp sgwâr bychan allan o ddarn o’r cerdyn gwyn, defnyddiwch bensil ffelt du i lunio llinell i lawr y canol. Gludiwch hwn ar waelod wyneb eich cwningen i edrych fel dannedd.
5. Gludiwch ben eich cwningen ar flaen bys eich bys canol.
6. Defnyddiwch bensil ffelt du i ychwanegu'r llygaid, y trwyn a'r blew ar wyneb eich cwningen.
7. Ychwanegwch y cylch gwyn gludiog i gefn eich bys i wneud cynffon eich cwningen.
A dyna chi - rydych wedi gorffen y gwningen. Ceisiwch symud eich bysedd i fyny ac i lawr - fel bod eich cwningen yn edrych fel pe bai'n neidio o gwmpas!
Wedi i chi orffen yr wynebau i gyd, beth am i chi gael sioe byped? Ceisiwch wneud llwyfan allan o focs, ac yna cuddio y tu ôl iddo, fel mai dim ond eich bysedd sydd i’w gweld.
Fe allwch addurno’r llwyfan gyda phaent, a chreu golygfa ar gyfer y pypedau i actio ynddi, beth am i chi hefyd ysgrifennu stori ac yna ei pherfformio!
|  | bbc.co.uk/cymru/tikkabilla | © 2005 |
|
|