bbc.co.uk
Home
Explore the BBC



Testun yn unig

Tweenies
MAWRTH
18fed Tachwedd 2014

Gwneud Broga


    Bydd angen:
  • Plât papur neu blastig
  • Cwpan papur neu blastig
  • Darn mawr o bapur neu gerdyn
  • Pensil/pen ffelt /craeon
  • Siswrn diogelwch
  • Glud di-wenwyn


  • Os hoffech wneud broga, dyma sut! Gofyn i oedolyn dy helpu, a rho gynnig arni!


1. Torra gylch mawr allan o bapur drwy lunio cylch o amgylch ymyl plât plastig neu bapur.

2. Plyga'r cylch yn ei hanner.

3. Torra bedwar cylch llai allan o bapur drwy lunio'r cylchoedd o amgylch ymyl plât plastig neu bapur a phlyga ddau o'r cylchoedd llai yn eu hanner.

4. Gludo'r ddau gylch bach sydd wedi eu plygu yn ymyl pen ucha'r cylch mawr sydd wedi ei blygu. Y rhain fyd y llygaid.

5. Troi drosodd y cylch mawr sydd wedi ei blygu, a defnyddio'r ddau gylch bach arall i dorri allan dwy ochr ar y ddau gylch.

6. Gludo'r ddau gylch bach yma ar waelod y cylch mawr, ond ychydig ymhellach oddi wrth ei gilydd. Y rhain fydd y traed.

7. Cymryd y cylch mawr sydd wedi ei blygu, a'i blygu drosodd eto, a lliwia smotyn ar y ddau lygad.

8. Yn y diwedd, fe ddylai fod gennyt ti froga yn edrych rhywbeth fel hyn.

amser bochanôlBBC Education

About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Trending Now