bbc.co.uk
Home
Explore the BBC



Testun yn unig

Tweenies
MAWRTH
18fed Tachwedd 2014

Gwneud Jyngl


    Bydd angen:
  • Papur gwyrdd
  • Papur brown
  • Darnau bach o bren
  • Siswrn
  • Tâp gludiog


  • Creu dy jyngl dy hun! Gelli di fynd ar antur drwy'r jyngl a dychmygu'r holl anifeiliaid sydd i'w gweld yno! Dyma sut! Gofyn i oedolyn i helpu a rho gynnig arni!


1. Cymryd y papur gwyrdd a thynnu siapiau dail arno.

2. Nawr, torri'r siapiau allan gyda'r siswrn. Gwneud yn sicr dy fod yn creu llawer o'r dail yma.

3. Gludwch y darnau hir o bren ar y dail gyda thâp gludiog.

4. Nawr, cymryd y papur brown a'i rolio i wneud tiwb.

5. Torri nifer o stribedi o'r un maint tua chwarter y ffordd i mewn i'r tiwb yma.

6. Nawr, dal gafael ar tu fewn y papur brown a'i dynnu allan yn araf. Fe ddylai edrych fel boncyff gyda changhennau yn dod ohono. Pan rwyt ti'n hapus gyda siâp y boncyff, gludo'r tiwb wrth ei gilydd yn y gwaelod gyda thâp gludiog. Gallet wneud faint fynni di o'r boncyffion hyn.

7. Nawr, gludo'r dail ar y canghennau a'u trefnu nhw mewn siapau coed. Cymryd y coed a'u gosod o amgylch dy stafell nes bod gennyt dy jyngl di dy hun!


amser bochanôlBBC Education

About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Trending Now