|  |  Gwneud Mwng Llew |
 | Wyt ti'n hoffi gwisgo i fyny? Mae'r Tweenies yn hoffi gwneud hynny, ac os hoffet wisgo fel brenin y jyngl, jyst dilyn y camau isod i wneud mwng llew! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!
 |
   | 1. Torri'r cerdyn i ddau stribedyn eitha' hir. Wedyn, gludo nhw wrth eu gilydd gyda thâp gludiog i ffurfio un stribedyn hir a fydd yn ffitio o amgylch dy ben. |  | 2. Nawr, cymryd gweddill y cerdyn a'i dorri i stribedi llai. |  | 3. Cymryd y stribedi a'i cyrlio nhw o amgylch pensil. |  | 4. Cymryd y stribedi wedi eu cyrlio a gludo eu pennau nhw i'r stribedyn mwy, gan ddefnyddio tâp gludiog. |  | 5. Nawr, cymryd y mwng a'i lapio o amgylch dy wyneb a'i dapio ar y gwaelod. Unwaith iti wneud hyn, gelli grwydro o gwmpas fel brenin y jyngl! |
|