bbc.co.uk
Home
Explore the BBC



Testun yn unig

Tweenies
MAWRTH
18fed Tachwedd 2014

Gwneud Argraffiad


    Bydd angen:
  • Platiau o baent lliw
  • Rholsyn o bapur plaen
  • Siapiau wedi eu torri o foron, tatws a sbwng

 


  • Cafodd y Tweenies hwyl wrth wneud argraffiad tylwythen? Os hoffet wneud un yn union yr un fath, dyma sut! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!


1. Gofyn i oedolyn dorri allan y siapau gwahanol y bydd angen ar eich argraffiad gan ddefnyddio moron, tatws neu sbwng.

2. Cymryd y darn o sbwng fydd yn gwneud corff y dylwythen a'i drochi yn y paent, yna ei osod r ddarn o bapur a phwyso arno yn ysgafn.

3. Tynnu'r sbwng o'r papur yn ofalus a dyna dy argraffiad cyntaf.

4. I roi coesau i'r dylwythen, trocha'r foronen yn y paent a'i argraffu dwywaith o dan y triongl.

5. Ar gyfer yr adennydd, trochi dau driongl bach sbwng yn y paent. Rhoi nhw ar ddwy ochr y corff a phwyso i lawr yn ysgafn.

6. Ar gyfer pen y dylwythen, trocha un pen o'r foronen yn y paent ac argraffu uwchben y corff.

7. Dal ati i argraffu'r un ddelwedd ar hyd y stribedyn o bapur a chyn hir fe fydd gennyt ti res perffaith o argraffiadau unffurf.


amser bochanôlBBC Education

About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Trending Now