 | 1. Y peth cynta' fyddi di ei angen yw darn o gerdyn wedi ei dorri yn gylch mawr. |
 | 2. Torri llinell syth o ymyl dy gylch i'r canol. |
 | 3. Gwneud siâp côn bach gyda''r cerdyn a selio'r côn i lawr ar un ochr gyda thâp gludiog. Gwna'n sicr dy fod yn gadael twll bach ar y brig. |
 | 4. Plyga'r côn yn ei hanner. |
 | 5. Ac wedyn yn ei hanner eto. |
 | 6. Ac unwaith eto, gan wneud cyfanswm o dri phlygiad. |
 | 7. Wedyn, lliwio dau saeth ar y siâp triongl rwyt ti wedi ei wneud.
|
 | 8. Torri ar hyd y llinellau rwyt ti wedi eu tynnu.
|
 | 9. Agor y siâp allan phlyga'r coesau yn y canol er mwyn gwneud pengliniau'r pry copyn neu'r corryn. |
 | 10. Rhoi sticeri bach ymlaen i wneud y llygaid. |
 | 11. Lliwio'r llygaid i mewn gyda dotiau bach. Wedi gorffen! |