 | 1. Rhoi'r plât plastig neu bapur ar y darn o gerdyn a lliwio o amgylch yr yml. Torri'r cylch allan.
|
 | 2. Tynnu llun sbeiral ar y cylch gyda phen y sbeiral yn gorffen ar ymyl y cylch. |
 | 3. Torri ar hyd y llinell rwyt ti wedi ei gwneud. |
 | 4. Gorchuddio'r sbeiral mewn glud. |
 | 5. Taenu gliter ar y sbeiral. Wedyn rhoi twll yng nghanol y sbeiral a rhoi cortyn drwyddo, gan ei glymu gyda chwlwm. |
 | 6. Nawr mae gen ti neidr sbeiral sgleiniog! |