|  |  Gwneud Pobol Papur |
 | Os hoffet wybod sut i wneud merched a bechgyn papur yn union fel rhai'r Tweenies, yna mae modd dysgu sut i'w wneud yma. Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!
 |
   | 1. Cymryd y darn o bapur a'i blygu i chwe darn cyfartal. |  | 2. Tynnu llun amlinell hanner person (bachgen neu ferch) ar y darn cyntaf o bapur. Gwneud yn sicr bod breichiau a choesau'r person yn diflannu oddi ar ymyl y tudalen. |  | 3. Yn ofalus, torri ar hyd amlinell y person ac wedyn datblygu'r papur.
|  | 4. Nawr, fe fyddi di'n gweld dy fod wedi creu tri pherson papur yn union fel rhai'r Tweenies! |  | 5. Os hoffet addurno dy Bobol Papur, defnyddio peniau ffelt neu ddeunyddiau lliwio eraill. |  | 6.Os hoffet wneud grwp o fechgyn a merched fel gwnaeth Jake a Milo, yna gwna ddau set o bobl; un yn fechgyn a'r llall yn ferched, a gludo eu coesau a'u breichiau wrth ei gilydd gyda thâp gludiog! |
|