bbc.co.uk
Home
Explore the BBC



Testun yn unig

Tweenies
MAWRTH
18fed Tachwedd 2014

Gwneud y Trac i'r Raswyr Tweenies


    Bydd angen:
  • Paent poster
  • Tâp masgio
  • Rholsyn o bapur tua 3 metr o hyd
  • Detholiad o fagnetau


  • Os hoffet wneud y Trac Rasio i'r Raswyr Tweenies er mwyn cael ras magnetau fel y Tweenies, dyma sut i'w adeiladu! Gofyn i oedolyn am gymorth a rho gynnig arni!


1. Dad-rolio'r rholsyn 3-metr o bapur a'i osod ar arwyneb gwastad sydd wedi ei orchuddio'n dda.

2. Gludwch un pen o'r papur i'r pen bwrdd neu'r arwyneb gwastad gan ddefnyddio'r tâp masgio, wedyn gwneud yr un peth ar y pen arall, gan ddefnyddio tâp masgio eto i'w ddal yn ei le. Gwna'n sicr bod y trac rasio wedi ei osod ar uchder sy'n gyfforddus i dy blentyn.

3. Rhoi dy Rasiwr Tweenie ar linell gychwyn y trac rasio.

4. Dal magnet o dan y trac rasio, gan sicrhau bod gennyt gysylltiad magnetig gyda'r cylch metel ar y Rasiwr Tweenie. Gofyn i ffrind neu aelod o'r teulu rasio yn dy erbyn di. Yr enillwr yw'r un i gael ei rasiwr ar draws y llinell derfyn gan ddefnyddio'r magnet yn unig, a heb iddo syrthio oddi ar y trac rasio!


amser bochanôlBBC Education

About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Trending Now