| Gwneud Raswyr Tweenies
Bydd angen:
- Cylchoedd metel
- Darn tenau o gerdyn
- Siswrn diogelwch
- Oeniau ffelt
- Tâp gludiog
Os hoffet wneud Raswyr Tweenies er mwyn cael ras magnetau fel y Tweenies, gelli ddysgu sut mae eu gwneud nhw yma. Gofyn i oedolyn am gymorth, a rho gynnig arni!
1. Torri sgwâr allan o'r cerdyn tenau.
2. Tynnu llun o dy hoff Tweenie ar y cerdyn.
3. Gosod cylch metel rhwng eu traed gyda thâp gludiog.
4. Plygu'r cerdyn i fyny wrth ben ucha'r cylch metel fel bod dy ddarlun yn sefyll i fyny.
5. Nawr rwyt ti wedi gwneud Rasiwr Tweenies. Gwna'r un peth gyda'r Tweenies eraill fel bod modd eu defnyddio nhw i gyd ar y trac rasio!
|