| Gwneud Papur Lapio
Bydd angen:
- Brws Paent
- Tatws
- Papur wal plaen
- Paent amrywiol. Triwch aur ac arian er mwyn creu naws Nadoligaidd.
Os hoffet wneud papur lapio fel y Tweenies, dyma sut. Gofyn i oedolyn roi cymorth, a rho gynnig arni!
1. Torri taten yn ei hanner (cofio i gael oedolyn i helpu), yna, torri siâp ar ochr fflat y daten. Byddai siapiau fel hyn yn dda: coeden Nadolig, lleuad, seren, aeron a chelyn.
2. Trochi'r siâp yn ofalus yn y paent lliw.
3. Mae'n bosib hefyd i baentio'r siâp ar y daten gyda brws.
4. Gosod y siâp ar y papur, pwyso arno ac wedyn ei dynnu oddi ar y papur yn ofalus.
5. Dal ati i roi'r un ddelwedd ar draws y papur i gyd, wedyn aros nes bod y paent wedi sychu.
6. Nawr mae gen ti dy bapur lapio lliwgar di dy hun er mwyn lapio anrhegion i'th ffrindiau a'th deulu ar gyfer penblwydd neu Nadolig!
|