"Be' sy'n bod?" gofynnodd Jake i'r clown bach digalon.
"Dwi'n t-t-teimlo'n ofnadwy" atebodd y clown gyda atal, "Jangles y Clown ydw i. Pyped ydw i, a dwi i fod yn ddigri, ond mi fyddai'n poeni am bopeth dan haul!"
Atebodd y milwr dewr gan ddweud "Dewrder! Dyna sydd ei angen arnat!"