BT am haneru nifer eu blychau ffôn yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Bocs ffon yng Ngheredigion

Mae BT yn ystyried cael gwared â dros 1,500 o flychau ffôn yng Nghymru, cynllun a allai haneru'r nifer.

Dywedodd y cwmni eu bod yn adolygu defnydd y blychau ffôn sydd ddim eu hangen bellach, ac maen nhw wedi cysylltu ag awdurdodau lleol i roi gwybod iddynt.

Ymysg y rhai allai gael eu cau mae 177 o flychau yn Sir Gâr, 60 yn Abertawe a 53 yng Nghastell-nedd.

Ond mae pryder y gallai'r cynlluniau gael effaith andwyol ar gymunedau gwledig, ble nad oes signal ffôn symudol dibynadwy.

Mae nifer o flychau yng Nghymru eisoes wedi cael eu haddasu at ddibenion gwahanol, gan gynnwys bod yn lyfrgelloedd neu'n rywle i gadw diffibrilwyr.

Gofyn i gynghorau

Mae BT eisoes wedi gosod rhybuddion yn y 1,579 o flychau ffôn sydd dan fygythiad. Ar draws Cymru mae gan y cwmni cyfathrebu 3,394 blwch ffôn.

Dyw nifer o'r blychau ddim wedi cael eu defnyddio o gwbl yn y flwyddyn ddiwethaf, ond dywedodd Parc Cenedlaethol Sir Benfro bod un blwch dan fygythiad yn Ninbych-y-Pysgod wedi cael ei defnyddio 127 gwaith mewn 12 mis.

Ychwanegodd cyngor tref Dinbych-y-Pysgod y byddan nhw'n gwrthwynebu cael gwared â'r blwch hwnnw a blwch arall yn y dref gafodd ei defnyddio 26 o weithiau, gan eu bod yn agos at ysgolion ac am nad oes gan nifer o drigolion hŷn yr ardal ffonau symudol.

Bocs ffon yn Dinbych y Pysgod

Dywedodd BT y byddan nhw'n dilyn rheolau Ofcom yn ofalus wrth gael gwared â blychau ac y bydden nhw'n gwneud hynny â chaniatâd yr awdurdodau lleol "ble fo'n briodol".

"Mae BT wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth blychau ffôn cyhoeddus, ond gyda'r defnydd yn gostwng o 90% dros y ddegawd ddiwethaf, rydyn ni wedi parhau i adolygu a chael gwared â blychau ffôn nad oes eu hangen bellach," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Ym mhob achos ble nad oes blwch ffôn arall o fewn 400 metr, fe fyddwn ni'n gofyn am ganiatâd yr awdurdod lleol cyn tynnu'r blwch ffôn oddi yno. Os ydyn nhw'n gwrthwynebu, wnawn ni ddim tynnu'r blwch oddi yno."

Trending Now