Hosbisau fel 'ail deulu' ond rhybudd bod eu dyfodol 'dan fygythiad'
Collodd Gwenno George a Luke Nicholas eu mab, Emrys Arthur, yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae bron i draean o hosbisau yn torri'n ôl ar wasanaethau a 70% yn rhybuddio y gallai costau a phwysau staffio arwain at gau gwelyau dros dro neu'n barhaol, yn ôl arolwg newydd.
Mae sawl gwely gwag bellach mewn hosbisau yng Nghymru, er bod mwy o alw nag erioed am ofal lliniarol a gofal diwedd oes, yn ôl elusen Hospice UK.
Dywedodd rhieni o Gaerdydd a gollodd eu mab ei bod yn "frawychus" meddwl am ddelio gyda'r sefyllfa heb gymorth hosbis.
Ond mae'n "gyfnod pryderus iawn i'r sector yng Nghymru" meddai Siwan Seaman o elusen Marie Curie Cymru, sy'n dweud nad yw'r "system bresennol o ariannu hosbisau yn gynaliadwy a mae hyn yn rhoi hosbisau Cymru dan fygythiad".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydnabod cyfraniad hanfodol hosbisau at ofal diwedd oes ac yn gweithio ar fodel comisiynu newydd i sicrhau mynediad teg a chynaliadwyedd hirdymor.
'Drws yr hosbis wastad ar agor'
Bob blwyddyn mae hosbisau Cymru yn darparu gofal a chymorth angenrheidiol i 20,000 o oedolion a phlant sydd â salwch terfynol.
Un a gafodd hynny oedd Emrys Arthur, mab bach Gwenno George a Luke Nicholas, a fu farw ychydig ddyddiau ar ôl cael ei eni ym mis Mawrth 2024.

Gwenno a'i diweddar fab Emrys Arthur a fu farw yn 2024
"Roedden nhw'n rhoi cysur mawr i ni o'r cychwyn cyntaf," meddai Gwenno.
"Roedden nhw'n deall yn llwyr beth roedden ni'n mynd drwyddo. Fe wnaethon nhw ein helpu i gael Emrys o Gaerdydd i'n cartref enedigol yng Nghricieth, oherwydd roeddwn i'n gwybod mai dyna lle oeddwn i eisiau mynd â fo i orffwys.
"Fydden ni ddim wedi gallu gwneud y daith honno heb eu cymorth nhw."
Ers hynny, mae Tŷ Hafan wedi parhau i fod o gymorth i'r teulu.
"Pan dwi'n mynd i'r hosbis, dwi dweud 'Haia mam Emrys sydd yma' dwi ddim yn cael gwneud hynny'n aml iawn," ychwanegodd Gwenno.
"Maen nhw wedi dod yn ail deulu i ni, ac mae'r drws wastad ar agor."
Fel rhan o apêl Nadolig Tŷ Hafan, Pob Bywyd Gwerthfawr, fe gerddodd Gwenno a'i theulu 165 milltir, y pellter rhwng Tŷ Hafan a Chricieth, gan godi £13,000.
"Mae'n frawychus meddwl y gallai gwaith mor arbennig fod mewn perygl," meddai.
"Alla i ddim dychmygu sut fyddai ein taith ni wedi bod heb Tŷ Hafan."

Ymddangosodd enfys ar gymal olaf y daith gerdded o'r uned arbenigol yn Ysbyty Athrofal Cymru i Dŷ Hafan
Yn ôl Siwan Seaman, Cyfarwyddwr Meddygol Marie Curie Cymru, mae'r argyfwng yn un cenedlaethol.
"Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i'r sector yng Nghymru," meddai.
"Nid yw'r system bresennol o ariannu hosbisau yn gynaliadwy ac mae hyn yn golygu bod hosbisau Cymru o dan fygythiad."
Mae arolwg newydd gan Hospice UK o bob un o'r 14 hosbis yng Nghymru wedi canfod:
Bod bron i 30% yn lleihau nifer y gwelyau neu wasanaethau oherwydd costau a phwysau staffio
Bod dros 70% o'r rhai â gwelyau cleifion mewnol yn disgwyl colli gwelyau dros dro neu'n barhaol
A bod tri chwarter yn rhagweld llai o gefnogaeth i'r system ehangach, gan gynnwys ysbytai a chartrefi gofal.

Does gan bawb yng Nghymru ddim yr un mynediad at ofal lliniarol, meddai Siwan Seaman
Dywedodd Siwan Seaman fod "loteri côd post" yn bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru.
"Nid oes gan bawb yr un mynediad at ofal lliniarol. Mae'n hanfodol sicrhau bod pob claf, ble bynnag maen nhw'n byw, yn cael yr un gofal o ansawdd uchel."
Mae Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi bellach ar gau dros dro ac ym mis Hydref y llynedd fe gaeodd hosbis Tŷ Shalom yn Sir Benfro ei drysau'n llwyr.
Yn ôl Hospice UK, mae tua 70% o gostau hosbisau yn cael eu talu gyda rhoddion elusennol, gyda'r gweddill gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.
Diffyg £2m y flwyddyn nesaf
Dywedodd Irfon Rees, Prif Weithredwr Tŷ Hafan, fod y sefyllfa'n peri pryder mawr yn y tymor hir, er bod y gwasanaethau'n sefydlog ar hyn o bryd.
"Mae tua 85% o'n hincwm yn dod gan bobl Cymru," meddai. "Dim ond ychydig dros 16% sy'n dod gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny wedi gostwng o'i gymharu â'r llynedd."

Byddai sicrwydd cyllido hirdymor yn galluogi i Dŷ Hafan gynllunio'n well, meddai Irfon Rees
Er nad oes cynlluniau i dorri gwasanaethau yn y tymor byr, mae Tŷ Hafan yn rhagweld diffyg yn y gyllideb o dros £2m y flwyddyn nesaf.
"Gallwn dynnu ar ein cronfeydd wrth gefn am gyfnod, ond allwn ni ddim gwneud hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn," meddai.
"Heb setliad cyllido hirdymor, bydd yn anodd cynnal y gwasanaethau hyn yn y dyfodol."
Dywedodd ei fod yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i godi cyfran y cyllid statudol i tua 30%.
"Byddai sicrwydd cyllido o flwyddyn i flwyddyn yn ein galluogi ni i gynllunio'n well ac i ganolbwyntio ar y plant a'r teuluoedd — nid ar yr ansicrwydd ariannol."
Llywodraeth yn 'cydnabod cyfraniad pwysig'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod cyfraniad pwysig hosbisau at ofal diwedd oes, ac wedi cynyddu buddsoddiad yn sylweddol, gan gynnwys £5.2m ychwanegol bob blwyddyn a mwy na £9.5m mewn grantiau.
Mae Plaid Cymru'n dweud bod hosbisau'n "rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal", ond eu bod dan bwysau "oherwydd penderfyniadau gan lywodraethau blaenorol".
Dywedodd y blaid y byddai'n "edrych ar sut i wneud y sector yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir" petai mewn grym.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am "setliad cyllido cynaliadwy, cyfartaledd cyflog gyda'r GIG ar gyfer staff hosbis, a chontractau tymor hir ledled Cymru" i sicrhau nad yw "pobl yn wynebu eu dyddiau olaf gyda gwelyau ar gau neu wasanaethau wedi'u lleihau".
Mae'r sector angen "sicrwydd ariannol a model cyllido cynaliadwy" meddai'r Ceidwadwyr Cymreig, gan ddweud bod ganddynt "gynllun ymarferol" i wneud hynny sy'n cynnwys buddsoddi £40m.
Mae Reform a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2025
