Ergyd i Gymru wrth i Ben Davies gael llawdriniaeth ar ei bigwrn

Mae cytundeb Davies gyda Spurs yn dod i ben ym mis Mehefin
- Cyhoeddwyd
Fe fydd amddiffynnwr Cymru a Tottenham Hotspur, Ben Davies yn cael llawdriniaeth ar ei bigwrn ar ôl iddo gael ei anafu dros y penwythnos.
Cafodd Davies, 32, ei anafu yn ystod gêm Spurs yn erbyn West Ham United brynhawn Sadwrn - ei bumed ymddangosiad i'r clwb y tymor hwn.
Dywedodd Tottenham mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai Davies "yn cael llawdriniaeth ddydd Llun ar ôl iddo dorri ei bigwrn chwith".
"Wedi'r llawdriniaeth fe fydd Ben yn dechrau ar y broses adferiad gyda'n staff meddygol. Rydyn ni gyda ti, Ben."
Mae'r newyddion yn ergyd i Gymru a Craig Bellamy wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd ym mis Mawrth.
Bydd rhaid i Gymru drechu Bosnia Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ac wedyn Yr Eidal neu Ogledd Iwerddon yn y ffeinal os am sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.
Mae Davies - a enillodd ei 100fed cap ym mis Hydref - wedi bod yn gapten ar ei wlad yn sgil absenoldeb diweddar Aaron Ramsey.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2025
