Cadarnhau lleoliad maes Eisteddfod Wrecsam 2025

Maes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd

GanDafydd Evans
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Daeth cadarnhad mai yn ardal Is-y-coed y bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn cael ei chynnal yn 2025.

Bydd y safle tir amaethyddol ger ystad ddiwydiannol y ddinas yn gartref i holl brif ddigwyddiadau’r brifwyl fis Awst nesaf.

Roedd rhai wedi mynegi rhwystredigaeth nad oedd union leoliad yr ŵyl wedi ei gyhoeddi yn gynharach.

Mae’r trefnwyr yn dweud y bydd y safle’n faes braf ac yn gyfleus i deithwyr o bob cyfeiriad.

Map Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Mae'r lleoliad gwledig rhyw bum milltir o ganol y ddinas ar ffordd y B5130 i’r dwyrain o’r ystad ddiwydiannol.

Bydd y Maes, y maes carafanau, y meysydd parcio a Maes B i gyd ar y caeau rheiny.

Dywedodd Llinos Roberts, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol bod 'na lawer o drafodaethau wedi bod wrth ganfod lleoliad addas.

"Mae 'na nifer o drefniadau oedd angen cael eu gwneud, siarad efo'r ffermwr yn lleol yn fan hyn," meddai.

"Mae angen 150 o aceri o dir. Oedden ni isio tir ar gyfer y Maes, y maes carafanau, Maes B - bob dim efo’i gilydd mewn gwirionedd y tro yma.

"Ac felly mae o wedi cymryd dipyn o amser. Ond yn amlwg mae 'na naw mis a hanner i fynd felly digon o amser i drefnu a digon amser i baratoi."

Llinos Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llinos Roberts mae lleoliad y safle yn Is-y-coed yn cynnig cyfle da i’r Brifwyl

Yn gartref i tua 300 o gwmnïau, mae rhyw 10,000 o bobl yn gweithio ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, sydd ymhlith y mwyaf yn Ewrop yn ôl y cyngor sir.

Yn ôl Llinos Roberts, mae lleoliad y safle yn Is-y-coed yn cynnig cyfle da i’r Brifwyl.

"Mae 'na botensial anferthol. Mae 'na nifer o gwmnïau mawr ar y stad ddiwydiannol yma ac mae’r 'Steddfod yn mynd i fod ar stepen eu drws nhw.

"'Dan ni wedi dechrau trafod efo rhai ohonyn nhw’n barod ac yn amlwg maen nhw’n gefnogol ac yn arbennig o falch."

Dywedodd Ms Roberts mai un o’r heriau fydd sicrhau bod y digwyddiad yn 2025 "mor wyrdd" ag Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.

Bydd trafodaethau’n digwydd gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i sicrhau trafnidiaeth addas, meddai.

Is-y-coed
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r lleoliad rhyw bum milltir o ganol y ddinas ar ffordd y B5130

Un o’r partneriaid hynny fydd Cyngor Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, pencampwr y Gymraeg ar yr awdurdod lleol, y bydd trafodaethau trafnidiaeth yn dechau yn yr wythnosau nesaf.

"Dwi'n edrych ymlaen i groesawu'r byd i Wrecsam eto," meddai.

"Mae'r Eisteddfod yn bwysig iawn i'r ddinas, i'r economi ac i’r cais Dinas Diwylliant 2029 achos bydd y panel beirniadu yn ymweld â'r Eisteddfod.

"Dwi’n gobeithio fydd yr Eisteddfod yn llwyddiannus. Mae'n bwysig i'r iaith Gymraeg, mae’n bwysig i bobl lleol fwynhau'r experience."

Daeth cyhoeddi lleoliad y safle wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol hysbysebu ar gyfer tair swydd newydd, yn cynnwys Cyfarwyddwr Technegol.

Pynciau cysylltiedig

Trending Now