Hiliaeth ddyddiol yng Nghymru'n 'creithio calon' teulu o Syria

Dywedodd un ddynes fod dyn oedrannus wedi gweiddi arni am wisgo hijab
- Cyhoeddwyd
Mae mab Salah wedi dioddef ymosodiadau dro ar ôl tro ers symud i Gymru.
Fe gafodd yr ymosodiadau gan gangiau o fechgyn yn eu harddegau eu ffilmio gan y rhai oedd yn gwylio, meddai.
Daeth y teulu i Brydain o Syria saith mlynedd yn ôl yn sgil y cynllun adsefydlu, ac mae eu tri phlentyn yn ddinasyddion Prydeinig bellach.
Dywedodd Salah - nid ei enw cywir - eu bod wedi ffoi rhag gwrthdaro, ond mae'n poeni bod yr hiliaeth ddyddiol maen nhw i gyd yn wynebu wedi "creithio fy nghalon".
"Dwi bob amser yn ceisio gwenu, dim ond i roi gobaith i eraill, ond rwy'n cuddio clwyfau y tu ôl i fy ngwên," mae'n esbonio drwy gyfieithydd.

Gohebydd BBC Cymru Jenny Rees yn siarad gyda Salah (chwith) a'i gyfieithydd
Mae ei brofiad yn un o nifer sy'n cael eu hadlewyrchu mewn adroddiad sy'n edrych ar fywyd cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Mae'r gwaith yn edrych ar brofiadau plentyndod niweidiol ac wedi ei gomisiynu gan Hwb ACE Cymru, sy'n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r ymchwil yn nodi'r trawma hiliol sy'n cael ei ddioddef mewn mannau cyhoeddus, o fewn addysg a gwasanaethau cyhoeddus.
Ymateb anghymesur
Fe gafodd yr heddlu ei galw ar ôl i fab Salah gael ei ddal gyda grŵp o fechgyn ifanc yn taflu ŵy at gar.
Roedd wedi cynnig cymryd cyfrifoldeb am ymddygiad ei fab, ac er nad oedd unrhyw ddifrod troseddol, gofynnodd perchennog y car am £800.
Gan nad oedd Salah'n gallu fforddio'r taliad, cafodd ei fab 12 oed ei gymryd i'r llys, cyn i'r ynadon wrthod yr achos.
Roedd y profiad yma, meddai Salah, yn anghymesur - yn enwedig o gymharu ag agwedd yr heddlu tuag at y rhai oedd wedi ymosod ar ei fab.
Mae'r themâu o anghysondebau wrth ymwneud â chymunedau penodol hefyd yn rhedeg drwy'r adroddiad.
Dywedodd y Swyddfa Gartref nad oedd "lle i hiliaeth mewn cymdeithas" a'u bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hynny ym mhob ffurf.
"Dyna pam mae'r llywodraeth wedi cyflwyno deddfau cydraddoldeb hiliol newydd i gryfhau a diogelu," meddai llefarydd.
Ychwanegodd eu bod yn cefnogi cynlluniau'r heddlu i sicrhau bod swyddogion yn cynrychioli'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu.

Molara Awen
Mae Molara Awen, 60 o Sir Benfro, yn ymgyrchu yn erbyn hiliaeth.
Dywedodd bod trawma yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd ac yn gyson yn dechrau'n ystod plentyndod.
"Ti'n cofio y tro cyntaf ti'n mynd i'r ysgol a rhywun yn dweud 'black this, black that' - ti'n cofio popeth.
"Y peth mwya' trist yw, mae'n plant ni yn cael yr un peth."
Er bod Molara yn falch o gynllun gweithredu gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru, mae'n dweud bod llawer mwy o waith i'w wneud ymhlith sefydliadau.
Pobl yn 'fwy cyfforddus' bod yn hiliol ar-lein drwy guddio pwy ydyn nhw
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2025
Anghyfartaledd hil dal yn bodoli yn y cyfryngau - seren Gogglebocs
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2025
Y llynedd, bu'n rhaid i Jasmine - nid ei henw cywir - ffoi o faes parcio ar ôl i ddyn redeg ati a'i bygwth gyda sbaner.
Roedd y dyn hefyd wedi ei sarhau hi a'i theulu ifanc.
Fe ddywedodd wrth yr heddlu am y digwyddiad ac fe drodd yn achos llys.
Dywedodd fod y broses yn niweidiol iawn ac yn waeth oherwydd ei bod wedi cael ei chamdrin yn hiliol gan aelod o'r cyhoedd tra yn yr orsaf heddlu.
Ychwanegodd Jasmine hefyd fod dyn oedrannus wedi gweiddi arni am wisgo hijab tra'r oedd hi ger ei gweithle.
Ar achlysur arall, cafodd ei bygwth tra'i bod hi allan gyda'i phlant oedd ar eu sgwteri, a bu'n rhaid iddyn nhw adael ar frys.
Dywedodd Jasmine ei bod hi bellach yn ofalus iawn o'r parciau mae hi'n ymweld â nhw, a hyd yn oed yn ofalus o'r hyn mae'r plant yn ei wisgo.
"Mae bron fel eich bod chi'n cael eich mygu. Mae pryder a straen cyson gan eich bod chi wastad yn wyliadwrus," meddai.
"Weithiau, rwy'n teimlo nad oes unman yn ddiogel ar wahân i fy nghartref."

Y darn mwyaf syfrdanol o'r ymchwil oedd clywed profiadau plant yn yr ystafell ddosbarth, meddai Selima Bahadur
Mae'r adroddiad yn galw am ymateb gwell gan wasanaethau wrth gefnogi pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, er mwyn cydnabod effaith hirdymor hiliaeth.
Yn ôl Selima Bahadur o EYST, wnaeth ysgrifennu'r adroddiad ar y cyd gyda Dr Shehla Khan o Brifysgol De Cymru, nid oes prinder polisïau.
Yr hyn sydd angen ei wneud, meddai, yw cymryd y cynlluniau gwrth-hiliol presennol o ddifrif.
"Nid dyma'r amser i gael deddf arall. Ry'n ni'n dod â'r ymchwil hwn i chi, ry'n ni wedi dweud wrthoch chi pa mor erchyll yw pethau - cymerwch e o ddifrif," meddai.
Ychwanegodd Selima mai'r darn mwyaf syfrdanol o'r ymchwil oedd clywed profiadau plant yn yr ystafell ddosbarth, gyda rhai yn dweud bod sarhad hiliol wedi cael ei ddefnyddio gan athrawon.
Dywedodd Selima y byddai'n hoffi gweld hiliaeth yn cael ei gofnodi fel mater o ddiogelu mewn ysgolion.
Adroddiad 'anodd ei ddarllen'
Cafodd yr adroddiad - Do You See My Trauma? - ei gomisiynu er mwyn cynorthwyo sefydliadau i ddelio â digwyddiadau hiliol.
Bydd hefyd yn chwarae rhan yn natblygiad cynlluniau gweithredu gwrth-hiliol y system cyfiawnder troseddol a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn wedi ymrwymo'n llwyr i ddileu hiliaeth ym mhob ffurf.
"Mae hiliaeth yn annerbyniol yn ein hysgolion a'n gwasanaethau cyhoeddus.
"Rydym yn disgwyl i bob honiad o fwlio a hiliaeth gael ei ymchwilio'n llawn, gyda chamau priodol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater ac atal achosion pellach.
"Er bod yr adroddiad hwn yn anodd ei ddarllen, mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar bobl ac yn mynd i'r afael â'r problemau y maen nhw'n eu hwynebu.
"Mae newid systemig yn cymryd amser, ond rydym yn adeiladu sylfaen gref ar gyfer cynnydd hirdymor."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2023

- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
