Gorfodi Dŵr Cymru i dalu £44.7m wedi methiannau 'difrifol'

Tap yn rhedeg i sinc Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ofwat - y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant dŵr ar hyn o bryd - yn cael ei ddiddymu

  • Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi cael gorchymyn i dalu £44.7m wedi methiannau sylweddol.

Fe wnaeth Ofwat - rheoleiddiwr y diwydiant dŵr ganfod bod Dŵr Cymru wedi methu â "gweithredu, cynnal a chadw ac uwchraddio" eu hasedau dŵr gwastraff yn ddigonol i ymdopi â charthion a dŵr gwastraff.

Roedd y methiannau yn rhai "difrifol ac annerbyniol," meddai Ofwat.

Wrth ymateb, dywedodd Dŵr Cymru: "Rydym yn derbyn canfyddiadau ymchwiliad Ofwat ac yn ymddiheuro nad ydym wedi cyrraedd y safon ddisgwyliedig i'n cwsmeriaid a'n rheoleiddwyr."

'Torri rhwymedigaeth gyfreithiol'

Methodd y cwmni â chael prosesau digonol "a goruchwyliaeth gan ei uwch reolwyr a'r bwrdd i sicrhau bod eu hasedau'n perfformio'n ddigonol a'i fod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol," medd Ofwat.

Wrth gydnabod y methiannau mae Dŵr Cymru wedi cytuno i ddilyn y camau angenrheidiol i fynd i'r afael â'r problemau sydd wedi eu nodi.

Mae'n ofynnol i'r swm o £44.7m - sydd i fod i gael ei dalu rhwng 2025 a 2030 - ddod gan y cwmni ac nid drwy filiau uwch i gwsmeriaid, medd y rheoleiddiwr.

Afon Ffynhonnell y llun, Afonydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod bod gormod o ollyngiadau gorlifoedd stormydd i'r amgylchedd wedi digwydd

Dywedodd Lynn Parker, Uwchgyfarwyddwr Gorfodi i Ofwat: "Mae ein hymchwiliad wedi canfod achosion difrifol ac annerbyniol o dorri amodau yn y ffordd y mae Dŵr Cymru wedi gweithredu a chynnal eu gweithfeydd a'u rhwydweithiau carthffosiaeth - sydd wedi arwain at ormod o ollyngiadau gorlifoedd stormydd i'r amgylchedd.

"Rydym bellach yn disgwyl iddyn nhw ganolbwyntio ar gywiro pethau fel y gall cwsmeriaid adennill ymddiriedaeth yn eu cwmni dŵr a'r gwasanaeth hanfodol y maen nhw yn ei ddarparu."

'Cytuno ar becyn unioni'

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn derbyn canfyddiadau ymchwiliad Ofwat ac yn ymddiheuro nad ydym wedi cyrraedd y safon y mae ein cwsmeriaid a'n rheoleiddwyr yn disgwyl.

"Rydym wedi cychwyn cynllun trawsnewidiad sylweddol ar draws y cwmni, gan gynnwys o fewn ein gwasanaethau dŵr gwastraff, sy'n canolbwyntio ar wella perfformiad, cryfhau goruchwyliaeth weithredol a chyflymu buddsoddiad er mwyn cyflwyno gwell canlyniadau i afonydd a dyfroedd arfordirol."

Maen nhw'n ychwanegu eu bod "wedi cytuno ar becyn unioni o £44.7m gydag Ofwat a fydd yn cyfeirio cyllid tuag at welliannau amgylcheddol a chamau gweithredu i leihau effaith gorlifoedd stormydd".

'Dyw e ddim yn syndod'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Cadeirydd y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Rhodri Williams: "Dyw e ddim yn broblem i'r cwmni dalu'r arian am mai dyma'r arian mae'r cwsmeriaid yn talu iddyn nhw.

"Yr hyn sy'n drawiadol yw bod y rheoleiddiwr wedi gorfod ymyrryd er mwyn gorfodi'r cwmni i wario'r arian ar beth y maen ganddo ddyletswydd gyfreithiol i'w cyflawni.

"Dyw e ddim yn syndod i neb. Ry'n ni wedi clywed straeon ers rhai blynyddoedd a grwpiau ymgyrchu yn tynnu sylw hefyd at garthffosiaeth yn cael ei arllwys i'n hafonydd a'n moroedd."

Ychwanegodd fod y cyhoeddiad yn "newyddion da dwi'n credu i gwsmeriaid bod y rheoleiddiwr yn cymryd y camau hyn.

"Ond nid dyma'r tro cyntaf i ni glywed newyddion o'r fath a bydd yn rhaid gweld nawr a fydd Dŵr Cymru, fel y cwmnïau eraill mewn sefyllfa debyg, yn gallu ymateb mewn ffordd sy'n 'delifro' gwasanaeth fel ry'n ni'r bobl sy'n talu am eu gwasanaethau a'u cyflogau, yn ei haeddu."

Ymateb y pleidiau

Mewn ymateb, dywedodd Delyth Jewell ar ran Plaid Cymru fod "pobl wedi blino ar fwy a mwy o garthffosiaeth yn cael ei dywallt i'n dyfrffyrdd, tra bod cwmnïau'n osgoi tebygolrwydd".

"Tra bod biliau dŵr yn cynyddu, mae safon ein dŵr yn gwaethygu - ac eto, mae'r bobl sydd yn rheoli'r system yn cael eu gwobrwyo â bonysau mawr.

"Nid yw'r system bresennol yn gweithio ac mae'n hen bryd i gwmnïau dŵr fod yn atebol.

"Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno Bil Dŵr newydd i Gymru a fydd yn ein caniatáu i gryfhau'r system rheoleiddio i drwsio'r system sydd wedi torri'n llwyr - gan wella ansawdd dŵr, mynd i'r afael â llygredd, a sicrhau gwell fforddiadwyedd i aelwydydd Cymru yn yr hirdymor."

Meddai Reform UK: "Rydym yn credu bod angen i uwchraddiadau Dŵr Cymru sicrhau canlyniadau cyflym er mwyn atal difrod pellach i'n dyfrffyrdd."

Dywedodd Andrew RT Davies o'r Ceidwadwyr Cymreig fod y sefyllfa yn "annerbyniol" a bod y cwmni "wedi nodi elw sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf - os bydd defnyddwyr yn talu'r bil am y ddirwy hon, bydd yn afresymol".

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru "mae cymunedau ledled Cymru wedi blino ar glywed ymddiheuriadau tra bod carthion yn parhau i lygru ein hafonydd".

"Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi arwain y galwadau dros y blynyddoedd diwethaf i Ofwat gael ei ddisodli gan reoleiddiwr Cymreig newydd llym gyda phwerau go iawn."

Mae'r Blaid Werdd a'r llywodraeth wedi derbyn cais am ymateb.

Trending Now