Trywanu Caerfyrddin: Heddlu'n arestio unigolyn wedi apêl

Mae'r heddlu wedi bod yn apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu oedd yn chwilio am ddyn mewn cysylltiad ag achos o drywanu yng Nghaerfyrddin wedi arestio unigolyn.
Cafodd menyw ei hanafu mewn ymosodiad yn ardal Heol Picton a Pharc Caerfyrddin.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi bod yn apelio am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad ar 29 Ionawr.
Nos Lun, dywedodd yr heddlu bod person wedi ei arestio "yn dilyn apêl gyhoeddus" i ganfod yr unigolyn.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ross Evans: "Hoffwn ddiolch i'r wasg a'n cymunedau am eu cymorth yn yr ymchwiliad hyd yn hyn."
Yn gynharach ddydd Llun dywedodd yr heddlu bod y fenyw wedi dioddef "ymosodiad difrifol", ond bod disgwyl iddi wella'n llawn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.