Enwebiad BAFTA ar gyfer ffilm fer gyntaf animeiddiwr o Bowys

Mae ffilm fer gyntaf Laura Tofarides o Bowys wedi ei chynnwys ar restr hir gwobrau BAFTA
- Cyhoeddwyd
Mae animeiddiwr o Bowys yn disgwyl i glywed a fydd ei ffilm fer gyntaf yn cyrraedd rhestr fer gwobrau BAFTA.
Mae gan Laura Tofarides, 33, o Fronllys, Powys, dros ddegawd o brofiad mewn animeiddio stop-motion.
Mae hi wedi gweithio ar ffilmiau Aardman Animations gan gynnwys Wallace and Gromit: Vengeance Most Fowl a Shaun the Sheep.
Mae Laura wedi gweithio hefyd ar ffilm Wes Anderson, Isle of Dogs, ond Brain Space (Gofod Ymennydd yn Gymraeg) yw ei ffilm gyntaf ei hun.
Ac mae'r ffilm fer bellach ar restr hir BAFTA yn y categori Animeiddio Byr Prydeinig, gyda'r rhestr fer yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae Laura wedi gweithio yn stiwdios Aardman ym Mryste, a greodd Wallace and Gromit: Vengeance Most Fowl, enillydd dwy wobr BAFTA yn 2025
Dechreuodd ei diddordeb mewn ffilmiau pan oedd hi'n blentyn ac yn treulio oriau yn siop rhentu fideos ei theulu yn ardal Aberhonddu.
"Roedden ni'n cael gwylio fideos prawf i weld a fydden ni am eu stocio yn y siop, felly roedd gen i lyfrgell enfawr," meddai.
"Fe ges i wylio pethau fel Wallace a Gromit a A Nightmare Before Christmas gan Tim Burton pan oeddwn i'n llawer rhy ifanc yn eistedd ar gownter y siop fideo."
Fe ddechreuodd hi arbrofi gyda chamera fideo a chreu fideos i'w rhoi ar YouTube.
Ar ôl gadael yr ysgol, fe astudiodd Laura ffilm a theledu yng ngholeg Merthyr Tudful, cyn gwneud gradd mewn animeiddio ym Mryste.

Daw cariad Laura Tofarides at ffilmiau ac animeiddio o'i phlentyndod yn siop fideo ei theulu ger Aberhonddu
"Rydw i jest yn dwlu ar stop-motion animation," meddai Laura. "Mae 'na jest rhywbeth magic amdano fe."
Mae'r ffilm yn delio gyda themâu dwys fel trawma, rheolaeth drwy orfodaeth a hunanladdiad, drwy lygaid y cymeriad Rhi.
Mae hi'n cael ei gwthio i'w meddwl ei hun, lle mae'n cwrdd â'i phlentyn mewnol ac yn brwydro i'w hachub rhag cysgodion ei thrawma ei hun.
"Dwi'n credu bod ffilm yn empathy machine. Mae pobl yn gallu gweld eu hunain yn y cymeriadau ac mae hi mor bwysig i wneud hynny," meddai Laura.

Mae'r ffilm fer Gofod Ymennydd / Brain Space yn archwilio trawma a hunaniaeth
Fe gafodd Gofod Ymennydd / Brain Space ei ffilmio yng Nghymru, Lloegr ac yn rhannol yn Seland Newydd, dros gyfnod o bum mlynedd, tra bod Laura yn gweithio ar brosiectau eraill.
Fe'i hariannwyd gan Ffilm Cymru Wales a BBC Cymru ac fe gafodd arian ei godi ar-lein ar blatfform Indiegogo.
Cafodd ei dangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yng Ngŵyl Sinema, Animeiddio a Thechnoleg Portland yn Oregon yn yr Unol Daleithiau yr haf diwethaf.
"Mae'r ymateb i stori Rhi wedi bod yn gadarnhaol iawn," meddai Laura.

Cafodd Gofod Ymennydd / Brain Space ei chreu dros gyfnod o bum mlynedd, gyda'r ffilmio'n digwydd yng Nghymru, Lloegr a Seland Newydd
Mae Gofod Ymennydd / Brain Space eisoes wedi cyrraedd rhestr hir gwobrau BAFTA yn y categori Animeiddio Byr.
"Mae'n exciting iawn," meddai Laura. "Dwi mor gyffrous, dwi'n methu'i gredu fe, mae fe'n amazing!"
O'r chwe chyfarwyddwr sydd wedi'u henwebu yn rhestr hir y categori, dim ond dwy sy'n fenywaidd.
"Dynion, yn dal i fod, sy'n dominyddu'r diwydiannau animeiddio, ffilm a theledu, ac mae pethau yn gwella," meddai.
"Dwi'n credu'r rheswm nad y'n ni'n gweld fwy o fenywod, yn enwedig yn y lefelau uwch, ydi bod cyfuniad o ddiffyg hyder a diffyg cyfleoedd.
"Mae 'na achosion lle mae dynion yn cael swyddi oherwydd bod ganddyn nhw botensial, ond mae menywod yn gorfod profi'u galluoedd, felly, mae hynny'n rhan o'r broblem."
Bydd BAFTA yn cyhoeddi'r rhestr fer ddydd Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023

- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2019

- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
