Cyngor Gwynedd yn bwrw 'mlaen gyda chau ysgol â dau ddisgybl

Dim ond dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg yn Llanfrothen erbyn hyn
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau eu bod am fwrw 'mlaen â chynlluniau i gau ysgol gynradd leiaf y sir.
Dim ond dau ddisgybl sy'n mynychu Ysgol Y Garreg yn Llanfrothen, gydag adroddiad yn argymell y dylid ei chau cyn Medi 2026.
Yn dilyn cyfarfod y cabinet ddydd Mawrth, mae'r cyngor wedi cyhoeddi hysbysiad statudol 28 diwrnod i gau'r ysgol ar 31 Awst, 2026.
Byddai disgyblion y dalgylch yn mynychu Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth, sydd ychydig dros ddwy filltir i ffwrdd.
Trafod cau ysgol gynradd sydd â dau ddisgybl yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Yn ôl dogfennau Cyngor Gwynedd, roedd 22 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2021 ac 17 o ddisgyblion yn Ionawr 2025, ond mae niferoedd wedi syrthio'n sylweddol ers hynny.
Ar hyn o bryd, mae pennaeth dros dro yn rhannu dyletswyddau rhwng Ysgol Y Garreg ac ysgol arall drwy drefniant anffurfiol.
Hefyd mae un athro a chymhorthydd rhan amser yn gweithio yn yr ysgol.
Cyfartaledd cost fesul dysgwr yn Ysgol Y Garreg yw £14,621, o gymharu â'r cyfartaledd sirol o £5,780.

Dywedodd cynghorydd fod y ddau ddisgybl ym mlwyddyn chwech ac yn symud i'r ysgol uwchradd ym mis Medi 2026
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, y Cynghorydd Dewi Jones: "Dydi hyn ddim byd newydd i ni yng Ngwynedd, a dweud y gwir, dyma ganlyniad newidiadau mawr yn nemograffeg y sir.
"Yn ôl yn 2011 i 2021, cyfnod o 10 mlynedd, erbyn y diwedd roedd ychydig dros 1,500 yn llai o blant yn yr ystod 0-15 oed - mae hynny'n amlwg yn mynd i gael effaith ar ein sir a'n hysgolion.
"Tua'r un pryd, fe wnaeth y gyfradd enedigaethau ostwng 25%.
"Yn 2012 ganwyd tua 1,300 o blant, ac erbyn 2022 roedd y ffigwr yna wedi gostwng i 997."
'Dim plant yn yr ysgol erbyn mis Medi'
Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y ddau ddisgybl sy'n mynychu'r ysgol ym mlwyddyn chwech ac nad oes plentyn wedi'i gofrestru ar gyfer y dosbarth derbyn.
"Erbyn mis Medi, fydd 'na ddim plant o gwbl yn yr ysgol," meddai.
"Mae'n sefyllfa drist, ond y cynnig yw cau Ysgol Y Garreg.
"Mae'r ysgol wedi gwasanaethu'r gymuned ers blynyddoedd lawer, ac mae staff yn gwneud eu gorau dros yr ysgol a'r ddau ddisgybl, a llawer o [aelodau] o staff dros y blynyddoedd, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth."
Dywedodd Gwern ap Rhisiart, pennaeth addysg y sir, fod ymgysylltu wedi digwydd gyda'r gymuned a bod cyfle o hyd i bobl "ddweud eu dweud" neu wrthwynebu.
Mae trafodaethau cyflogaeth wedi dechrau gyda staff, sy'n cynnwys y pennaeth dros dro, athro, cynorthwyydd, a'r rhai mewn rolau glanhau ac arlwyo.
Ychwanegodd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch defnydd posibl yr adeilad yn y dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.