Ymunwch â sianel newydd BBC Cymru Fyw ar WhatsApp

WhatsApp
  • Cyhoeddwyd

Gallwch nawr gael y newyddion diweddaraf gan BBC Cymru Fyw ar WhatsApp.

Rydym wedi lansio sianel WhatsApp newydd, sy'n golygu y gallwch gael gwybod am y straeon mwyaf o Gymru.

Sut alla i ddod o hyd i'r sianel?

Cliciwch ar y ddolen yma, dolen allanol neu sganiwch y cod QR isod gyda chamera eich ffôn, sy'n mynd â chi'n syth i'n sianel WhatsApp.

Fel arall, gallwch ddilyn ein sianel â llaw trwy ddilyn y camau hawdd yma:

  1. O'ch sgrin gartref yn WhatsApp, cliciwch ar y botwm "Updates" ar waelod y sgrin;

  2. O'r fan hon chwiliwch am BBC Cymru Fyw, a chlicio ar y botwm "+" ochr yn ochr â'n sianel i danysgrifio.

QR

Ydy hi'n bosib i mi gael hysbysiadau?

Ydy. Mae hysbysiadau ar gyfer ein sianel WhatsApp yn cael eu diffodd fel rheol, ond mae'n hawdd eu troi ymlaen.

I droi hysbysiadau ymlaen, ewch i sianel WhatsApp BBC Cymru Fyw a chliciwch ar yr eicon cloch yng nghornel dde uchaf y sgrin, gan sicrhau nad oes unrhyw linell yn rhedeg drwy'r eicon.

Dylai "Hysbysiadau wedi'u troi ymlaen" gael eu harddangos ar y sgrin.

Lawrlwythwch ap Cymru Fyw

Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.

Trending Now