Mamau yn trafod eu blaenoriaethau gwleidyddol

Yn ystod yr etholiad cyffredinol fe fyddwn ni'n ymweld ag ardaloedd ar hyd a lled Cymru i glywed beth yw'r pynciau sydd o bwys iddyn nhw.

Mae ein taith yn dechrau yng Ngheredigion, wrth i ni gael sgwrs gyda chriw Mamis Mentrus ar eu hymweliad nhw â ffair Aberteifi.

Yn ogystal â thrafod pa rinweddau maen nhw'n chwilio amdano mewn gwleidydd neu blaid, mae'r mamau hefyd yn trafod sut effaith mae bod yn rhieni wedi ei gael ar eu blaenoriaethau gwleidyddol.

Trending Now