Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cefn gwlad, amaeth a'r celfyddydau

Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen yn edrych ar y cysylltiad rhwng amaeth a'r celfyddydau. Terwyn Davies looks at the connection between the countryside and the arts.

Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen yn edrych ar y cysylltiad rhwng cefn gwlad, amaeth a'r celfyddydau.

Sgwrs gyda'r awdures o Ddyffryn Aeron, Caryl Lewis am sut y mae'i magwraeth wledig wedi ei dylanwadu yn ei gwaith.

Hefyd, Ceri Jones o Ruthun sy'n sôn am ei diddordeb mewn arlunio delweddau o fyd natur, a sut y mae wedi gallu neud busnes o'r cyfan - 'Pwts Bach'.

Eitem o'r archif, gyda theulu fferm Hendrecennin yn Eifionydd yn sgwrsio a hel atgofion am ddyddiau cynnar ar y fferm, a sut roedd y canu yn cydredeg â'r ffermio.

A sgwrs gyda Sam Robinson o ardal Corris, gŵr o ardal Rhydychen yn wreiddiol, symudodd i Ganolbarth Cymru, gan ddysgu'r iaith. Erbyn hyn, mae Cymru a'r Gymraeg wedi trawsnewid ei fywyd.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul07:00

Darllediadau

  • Dydd Sul07:00
  • Dydd Sul15:30