Main content
Pancws, crempog a chramwyth
Carwyn Graves sy'n trafod hanes y grempogen yng Nghymru, wrth i Ddydd Mawrth Ynyd agosau. As we approach Shrove Tuesday, Carwyn Graves discusses everything about the pancake.
Carwyn Graves sy'n trafod hanes y grempogen yng Nghymru, wrth i Ddydd Mawrth Ynyd agosau.
Hefyd, Aled Williams o Goleg Amaethyddol Llysfasi ger Rhuthun sy'n trafod sut y mae'r myfyrwyr yn cael eu haddysgu i wyna'n llwyddiannus yr adeg yma o'r flwyddyn.
Sgwrs hefyd gydag Ynyr Pugh, y ffermwr o ardal Dinas Mawddwy, enillydd Gwobr Goffa Brynle Williams yng ngwobrau LANTRA Cymru eleni.
Glesni Phillips sydd â'r newyddion diweddaraf o'r martiau anifeiliaid, a Delme Harries, un o drefnwyr Sioe Sir Benfro sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.
Darllediad diwethaf
Dydd Sul Diwethaf07:00
BBC Radio Cymru
Darllediad
- Dydd Sul Diwethaf07:00BBC Radio Cymru
