Archifo ac Arlunydd
Ymweliad ag archifdy Prifysgol Bangor, a dysgu am hanes yr arlunydd James Dickson Innes. A visit to Bangor University's archives, and the story of painter James Dickson Innes.
Beth yn union ydy archif, a pham fod pobl yn archifo pethau? Mae Dei yn galw heibio archifdy Prifysgol Bangor i ddysgu mwy gan Elen Wyn Simpson sy'n Uwch Archifydd yno, a hefyd yn cael cwmni Einion Wyn Thomas sydd â chefndir fel archifydd ers dros 30 o flynyddoedd.
Jon Gower sy'n gwerthuso hanes a gwaith James Dickson Innes ar ôl i gyfrol newydd gan yr awdur Richard Gwyn creu diddordeb newydd yn yr arlunydd o Lanelli.
Nôl yn yr archifdy, Gwyn Williams sy'n esbonio sut mae o'n llwyddo i ddenu mwy o ymwelwyr drwy rannu casgliadau ar y cyfryngau cymdeithasol, a Claire Lober o America sy'n sôn am ei gwaith yn catalogio papurau Rachel Bromwich.
Ar y Radio
Darllediadau
- Dydd Sul17:00BBC Radio Cymru
- Heddiw18:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Dei Tomos
Sgyrsiau am Gymru, ei phobl a'i diwylliant.

