Main content
Y Llewod Cochion v Dros yr Aber - Cerdd yr Wythnos
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffatri
Riliau. Riliau o rywle
yn dod o frecwast tan de,
hyd yr hwyr, i’m ffôn. A drwg
y diawliaid? Dod i olwg
y maent yn yr oriau mân:
lovelife â’r riliau aflan
fesul eiliad sgroliadwy
yw penyd fy mywyd mwy.
Daw’r wawr. Daw riliau di-ri,
riliau i fy rheoli,
a’u sothach sy’n ffars weithiau.
Mwy na hyn, rwy’n eu mwynhau.
Rhys Iorwerth 10





