Main content

Ai cerddoriaeth neu celf gain yw prif ddiddordeb Annie Suganami?

Annie Morgan Suganami yw gwestai Beti George.
Celf yw diddordeb ein gwestai Annie Morgan Suganami, a hynny ers yn blentyn bach - ond fe aeth hi i'r Academi Frenhinol yn Llundain yn 15eg mlwydd oed i gael ei hyfforddi i chwarae'r ffliwt, a dyna oedd yr offeryn roddodd fywoliaeth iddi a hynny fwy neu lai ar draws y byd.

Yna yn 60 mlwydd oed penderfynodd wireddu breuddwyd a mynd nôl i'r coleg a chael gradd mewn celfyddyd gain. Erbyn hyn mae hi'n artist adnabyddus ac wrth galon ei gwaith mae portreadau urddasol a chynnes o fenywod hyn.

Fe ddaw yn wreiddiol o bentref Dolau ger Aberystwyth.

Yn y rhaglen cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 can yn cynnwys un o ganeuon Cusan Tan, grŵp y bu hi'n rhan ohono sydd wedi ail ffurfio yn ddiweddar ar ôl 25 mlynedd o seibiant.

Yma mae hi'n trafod rhannu'r newyddion gyda'i rhieni nad oedd am fwrw 'mlaen gyda chelf yn yr ysgol.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau