Episode details

Radio Cymru,25 Jan 2026,56 mins
Waldo, Arddangosfa 'Stryd Fawr' a drama lwyfan BFG, Roald Dahl
Llwyfan gyda Manon Steffan RosAvailable for 27 days
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Yn y rhaglen heddiw mae Manon yn cael cwmni Mererid Hopwood a Ryland Teifi, awdur ac actor cynhyrchiad diweddaraf 'Waldo' gan gwmni theatrig Mewn Cymeriad sydd ar fin teithio ledled Cymru gyda'r fonolog un dyn. Mae'r artist tecstiliau Hâf Weighton yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs cyn iddi agor ei harddangosfa newydd 'Stryd Fawr' yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun. Ac mae Math Roberts yn trafod ei waith fel cyfarwyddwr cerdd ar fersiwn lwyfan o stori Roald Dahl, sef y 'BFG'.
Programme Website