Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,22 Feb 2026,27 mins

Available for 7 days

Yn nau-ddegau’r ganrif ddiwethaf daeth prifathro newydd i Ysgol Cribyn, Dyffryn Aeron a chlywed y brodorion yn canu caneuon na chlywodd unman o’r blaen. Yn gerddor medrus aeth ati i’w casglu a’u cofnodi ar gopi-bwcs yr ysgol. Yna, un diwrnod, diflannodd y llyfrau. Gan mlynedd yn ddiweddarach mae dau a fagwyd ar lannau afon Teifi – yr actores Elliw Dafydd a’r cerddor gwerin Owen Shiers - ar drywydd yr hanes ac yn awyddus i ni gyd wybod nid yn unig beth ddigwyddodd i’r llyfrau gwerthfawr ond hefyd pam y dylem oll wybod yn iawn pwy oedd John Ffos Davies.

Programme Website
More episodes
Trending Now