Episode details

Available for 32 days
Yr awdur a darlithydd Peredyr Glyn yw gwestai Beti George. Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2025 am ei nofel Anfarwol sy’n dilyn bywyd yr actor enwog o’r ddeunawfed ganrif, Theophilus Cibber. Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy. Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cwblhaodd ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010. Mae Peredur wedi bod yn darlithio ym maes ieithyddiaeth ers dros bymtheg mlynedd. Bellach mae’n Ddarllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd yn Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor gan addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a phapurau ysgolheigaidd ar ieithyddiaeth y Gymraeg, gan gynnwys am amrywiaeth sosioieithyddol, newid gramadegol a chyfnewid côd. Cawn hanesion ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys 'My Eyes Are Fully Open' – Gilbert and Sullivan, mae Peredur wedi bod yn arwain ac yn perfformio operâu Gilbert and Sullivan ers blynyddoedd ac yn aelod selog o gorau Hogia Llanbobman a Chôr Esceifiog.
Programme WebsiteTracklist
- TrackArtist
- 1.LlanrwstLlanrwstJohn Eifion
- 2.From Me To You (2023 Mix)From Me To You (2023 Mix)The Beatles
- 3.My Eyes Are Fully OpenMy Eyes Are Fully OpenD'Oyle Carte Opera Company, Isidore Godfrey & The D’Oyly Carte Opera Company
- 4.HafganHafganHogia Llanbobman