Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,15 Mar 2026,27 mins

15/03/2026

Yfory Newydd

Available for 26 days

Mae Yfory Newydd yn ôl yn dod â hanesion am y llwyddiannau a’r datblygiadau gwyddonol cyffrous o Gymru. O Fformiwla 1 i ddyddio coed, ac o‘r darnau lleiaf ym mhob teclyn electronig i’r diweddaraf am ddiwydiant niwclear Cymru. Yn y bennod gyntaf, â hithau yn dymor rasys Fformiwla 1, mae Elin Rhys yn ymweld ag Ysgol Bro Edern lle mae tîm o 5 o ferched yn cystadlu mewn rownd genedlaethol STEM Fformiwla 1 – yn dyfeisio ceir bach i saethu ar drac arbennig yn Sain Ffagan. Byddan nhw yn gobeithio am le yn y rownd led led Prydain! Dyma beirianwyr a mathemategwyr y dyfodol, yn cystadlu dan yr enw BRANWEN. Ond wedyn at rywbeth hollol wahanol lle mae hanesydd – Eurig Davies - yn ymchwilio i hanes hen dai Sir Gâr ar ran Cymdeithas yr Hynafiaethwyr. Ond dyw haneswyr methu cael yr atebion heb help y gwyddonwyr. Ac felly fe fyddwn yn dilyn Eurig Davies o hen dŷ yn Sir Gâr i gyfarfod yr Athro Neil Loader yn ei labordy yn Abertawe. Yno mae yna wyddoniaeth flaengar yn digwydd wrth ddefnyddio isotop Ocsigen, ac mae Eurig yn awyddus iawn i wybod beth yw hanes ei samplau ef o goed derw o dai hynafol y Sir!

Programme Website
More episodes
Trending Now