Episode details

Available for 28 days
Tudur Hallam, Prifardd Eisteddfod Wrecsam 2025, sy'n rhannu ei gyfrol newydd o farddoniaeth, 'Y Golau yn y Gadair'. Mae 'Y Golau yn y Gadair' yn gasgliad o gerddi sy'n rhannu profiad y bardd ers iddo dderbyn diagnosis o gancr. Robert Smith sy'n rhannu hanes coll y gwleidydd Llafur D. R. Grenfell. A chanrif ers cyfansoddi 'Pwllderi' gan Dewi Emrys, Hedydd Hughes sy'n olrhain hanes y gerdd a'r bardd gan roi blas i ni o dafodiaith gyfoethog Sir Benfro.
Programme Website