Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,05 Apr 2026,27 mins

Mab fferm o Ynys Môn yn Gaplan i'r Brenin

Troi'r Tir

Available for 28 days

Y Parch Llewelyn Moules-Jones o Ynys Môn sy'n sôn am ddod yn un o Gaplaniaid Anrhydeddus i'r Brenin, a phwysigrwydd cefn gwlad i'w fywyd a'i waith. Hefyd, hanes y criw o ogledd Cymru sydd am gerdded o Ynys Môn i faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd - drwy fynd o fart i fart, er mwyn codi arian at achos da. Logan Williams o ardal Llandeilo sy'n sgwrsio am hyfforddi cŵn defaid, a'r profiad o fod yn darlithio myfyrwyr amaeth yng Ngholeg Gelli Aur. Awel Mai Hughes sydd â'r newyddion diweddaraf o ran y polisiau a'r grantiau amaethyddol, ac wrth i'w gyfnod fel Gohebydd ar Troi'r Tir a'r Bwletin Amaeth ddod i ben, Rhodri Davies sy'n hel atgofion am rai o'r straeon sy'n aros yn y cof.

Programme Website
More episodes
Trending Now