Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,29 Jan 2026,46 mins

Taniwch y sigârs... mae Caerdydd i fyny yn barod!

Y Coridor Ansicrwydd

Available for 341 days

Ar ôl buddugoliaeth swmpus ganol wythnos i Gaerdydd, mae'r criw yn dechrau meddwl bod dyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth yn anochel yn barod. Maen nhw ar "lefel uwch" yn ôl Malcolm Allen, tra bod Owain Tudur Jones yn credu bod popeth "rhy hawdd" i'r Adar Gleision ar hyn o bryd. Y rheolwr Brian Barry-Murphy sy'n cael y clod i gyd am drawsnewid canlyniadau'r clwb... ond ydi'r llwyddiant yma yn peryglu ei ddyfodol hirdymor yn y brifddinas? Tydi pethau ddim mor hawdd i Abertawe, yn sicr pan maen nhw'n chwarae oddi cartref. Sut all yr Elyrch wella'r record druenus o dair buddugoliaeth mewn 14 gêm? Does dim problem debyg i Wrecsam wrth iddyn nhw ddangos cymeriad drwy frwydo'n ôl unwaith eto i sicrhau buddugoliaeth anhygoel i godi i'r chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth. Ond ar ôl buddugoliaeth i godi hyder ddydd Sadwrn, roedd 'na ergyd drom eto i Gasnewydd wrth golli ganol wythnos. Ac ar drothwy rownd wyth olaf Cwpan Cymru, mae 'na sawl clwb o'r is-gynghreiriau yn breuddwydio am godi'r cwpan ac am daith fythgofiadwy i Ewrop.

Programme Website
More episodes
Trending Now