Episode details

Available for over a year
Plu Mae’n pluo geiriau eto heno... Chwyrlïant yn ddi-gyswllt ysgafn, pob un yn ddim ond defnyn ar dafod, ac eto’n cloi’n gramen gannaid wrth gladdu gwlad yn ddyfnach ddyfnach dan eu gwyn; a’r lluwchfeydd yn anffurfio’r tir cyfarwydd, yn orchudd ar y gwirionedd gynt. Ac wrth fentro croesi’r oerni hwn, a’r ansicrwydd a sugna dy fferau, ac a guddia erchwyn y gyfraith, mae’r gwanwyn mor bell; y dadmer a allai ein hadfer o’r adfyd hwn, gan nad ‘gwyn ein byd’ gyda’r ‘gwyn y gwêl’ hwn, sy’n printio’n wyn ddi-dor ar lygaid dall, a’i sŵn gwyn yn llethu’r deall... Ac mae’n pluo eto... Heno... Ifor ap Glyn
Programme Website