Pwy ydw i?

Mae cymeriadau'r gyfres hon, Meg, Gethin, Jac a Meera, wedi eu sgriptio'n seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd gyda phobl ifanc go iawn o Gymru. Yn y ffilm hon, maen nhw'n cyflwyno eu hunain ac yn disgrifio elfennau allweddol o’u hunaniaeth bersonol.

Nodiadau athrawon

Cam Cynnydd 4

Mae pedwar person ifanc o bob rhan o Gymru’n cyflwyno eu hunain ac yn egluro rhannau allweddol o’u hunaniaeth. Mae Meg yn ddarpar-ffermwr o Ruthun, ac mae ei theulu wedi bod yn ffermio yno ers cenedlaethau. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau canu ac mae hi wedi cystadlu yn Eisteddfod y Clwb Ffermwyr Ifanc. Mae Gethin o'r Wyddgrug yn egluro sut mae ei rywioldeb a’i hobi – chwarae gemau cyfrifiadurol – yn rhan bwysig o’i hunaniaeth. Trafoda Jac o Gaerdydd ei hunaniaeth o ddwy dreftadaeth, ei gariad at bêl-droed, a’i gyfrifoldebau gofalu am ei fam. Mae Meera o Lanelli yn siarad am ei chariad at chwaraeon fel rygbi, a sut mae crefydd yn rhan bwysig o hunaniaeth teulu ei mam.

Nodiadau cwricwlwm

  • Gellid gofyn i’r myfyrwyr beth mae hunaniaeth yn ei olygu iddyn nhw, a beth sy’n ffurfio eu hunaniaeth. Mewn parau, gallan nhw greu rhestr o beth maen nhw’n meddwl sy’n cyfrannu at hunaniaeth.

  • Gall y myfyrwyr drafod yr ystrydebau maen nhw wedi eu clywed a chreu rhestr neu dabl i amlinellu sut mae’r ystrydebau hyn yn cael eu creu a sut i’w datrys.

  • Gall y myfyrwyr ddewis un agwedd ar hunaniaeth, er enghraifft cenedligrwydd, ac ymchwilio sut mae’n cael ei chynrychioli yn eu teulu, yr ysgol neu’r gymuned leol.

  • Gellid gofyn i’r myfyrwyr wneud cyflwyniad i’r dosbarth ar eu hunaniaeth eu hunain, neu ar un agwedd o'u hunaniaeth y maen nhw’n fodlon ei rhannu.

  • Mewn parau, gallai'r myfyrwyr ymchwilio i brofiadau diwylliannol, credoau ac ymarferion gwahanol bobl. Yna gallan nhw wrthgyferbynnu'r rhain gyda’u profiadau nhw.

Rhagor o'r gyfres hon:

Newid hunaniaeth. video

Mae pedwar o bobl ifanc o Gymru yn trafod newid hunaniaeth a newid barn.

Newid hunaniaeth

Argraffiadau cyntaf. video

Caiff pedwar o bobl ifanc o Gymru eu cyfweld ar eu hargraffiadau cyntaf o’i gilydd.

Argraffiadau cyntaf

Chwyldroadau hanesyddol. video

Golwg ar ddigwyddiadau pwysig hanes modern yng Nghymru a’r byd drwy lygaid pobl ifanc.

Chwyldroadau hanesyddol
Trending Now