Pam mae chwarae dychmygol mor dda i’ch plentyn

Ydy’ch plentyn wrth ei fodd yn sgwrsio â’i deganau? Neu a yw'n gwisgo i fyny ac yn esgus bod yn fôr-leidr neu’n arch-arwr? Mae gan eich plentyn bach ddychymyg MAWR.

Ond, mae chwarae smalio fel hyn yn fwy na dim ond hwyl: mae hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau iaith a chymdeithasol eich plentyn. Ac mae chwarae dychmygol yn dechrau’n gynt nag y byddech chi’n ei feddwl. Yn ôl Dr Claire Halsey, seicolegydd plant ac arbenigwr ar fagu plant: “Gall eich plentyn ddechrau chwarae smalio pan fydd tua blwydd oed. Byddwch chi’n ei weld yn dechrau defnyddio pethau o’i gwmpas mewn ffyrdd annisgwyl. Efallai bydd eich plentyn yn dechrau ceisio bwydo ei dedi – dyna fan cychwyn chwarae creadigol.”

I annog hyn, mae hi’n awgrymu creu gemau creadigol ar gyfer eich plentyn. “Unrhyw bryd ar ôl tua 12 mis, gallwch ei helpu i actio wrth chwarae. Gallech chi drefnu te parti i’r teganau er enghraifft.”

Mam a phlentyn bach yn rhoi bath i ddoli.
Image caption,
Mae chwarae smalio’n dechrau o oedran cynnar, ac mae llawer o ffyrdd o'i annog.

Mae’ch plentyn yn dysgu gennych chi bob dydd. Felly peidiwch â synnu os bydd, wrth chwarae, yn actio neu'n dynwared y pethau rydych chi’n eu gwneud.

Dros y blynyddoedd mae chwarae dychmygol yn esblygu’n bethau sy’n fwy strwythuredig.

“Pan fydd plant rhwng dwy a thair oed, byddan nhw'n dechrau actio pethau fel mam yn mynd i’r siop, neu dad yn coginio swper,” medd Dr Halsey.

Wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn a dechrau darllen, byddwch chi’n ei weld yn dechrau creu ei storïau ei hun wrth chwarae. “Gallwch ddechrau hyn yn gynt drwy ddweud stori a gofyn i’ch plentyn beth sy’n digwydd nesaf,” medd Dr Halsey. “Wrth i’ch plentyn ddechrau darllen ac ysgrifennu, efallai y bydd eisiau actio ei stori ei hun neu ei hoff lyfr neu gartŵn. Gallech chi ei annog i berfformio sioe i chi os yw’n dymuno. Bydd canmol eich plentyn am fod yn greadigol yn ei helpu i fagu hyder.”

Yma, mae Dr Halsey yn datgelu pedair mantais annisgwyl o chwarae dychmygol.

1. Mae chwarae smalio’n helpu i ddatblygu iaith

Mae’ch plentyn yn dysgu iaith o'r byd o’i gwmpas. Ac mae chwarae dychmygol yn ei helpu i greu bydoedd cyffrous lle gall ddefnyddio llawer o eiriau newydd. Dywed Dr Halsey: “Mae chwarae dychmygol yn rhoi cyfle i blant ddefnyddio geiriau na fyddent efallai’n eu defnyddio yn ystod diwrnod arferol. Oni bai eich bod chi’n mynd i’r sŵ, dydych chi ddim yn sôn am sebras na phengwiniaid.”

Mae plant yn mynd i lefydd anhygoel a gwahanol iawn wrth chwarae smalio – o fydoedd hudolus i fforestydd glaw. Mae’n wych ar gyfer iaith, lleferydd a chyfathrebu.

Ymunwch â’r chwarae dychmygol drwy ddefnyddio a siarad fel pyped hosan. “Fel rhiant, gallwch ddechrau sgwrs drwy ddweud lle rydych chi a dangos geiriau newydd.”

Mae bachgen ifanc yn eistedd mewn blwch cardbord tra bod dad yn gwylio.
Image caption,
Mae chwarae dychmygol yn rhoi cyfle i'ch plentyn ddefnyddio geiriau na fyddai’n eu defnyddio yn ystod diwrnod arferol o bosibl.

2. Mae’n helpu’ch plentyn i ystyried safbwynt rhywun arall

O esgus bod yn anifail i actio rôl fel mam neu dad, mae’ch plentyn wrth ei fodd yn chwarae rôl. Ac nid yn unig mae hyn yn hwyl, mae hefyd yn helpu ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol. “Mae defnyddio dychymyg i chwarae rôl fel hyn yn helpu’ch plentyn i ystyried sut fywyd sydd gan bobl eraill”, medd Dr Halsey. “Mae dychymyg eich plentyn yn gallu mynd i unrhyw le; does dim rhaid bod gartref. Mae'n gallu smalio bod yn rhywun arall, a rhoi ei hun yn esgidiau rhywun arall.”

Mae chwarae creadigol hefyd yn helpu plant i ddeall y byd o’u cwmpas, a’u lle nhw yn y byd hwnnw.

Mae plant yn aml yn chwarae’n greadigol i gael blas ar beth sy’n digwydd yn eu byd.

“Efallai byddwch chi hyd yn oed yn clywed eich plentyn yn ailadrodd rhywbeth rydych chi wedi’i ddweud pan fydd yn chwarae,” ychwanega Dr Halsey.

I helpu, mae Dr Halsey yn awgrymu cyflwyno propiau. “Bydd hyn yn helpu’ch plentyn i gael blas ar chwarae rôl. Mae’n ei helpu i fod yn greadigol. Does dim angen pethau drud arnoch chi: gallai fod yn hudlath rydych chi wedi’i gwneud o diwb cardbord a darn o bapur er mwyn i'ch plentyn allu esgus bod yn dylwythen deg.”

Mam yn gwylio'r plant bach yn cael parti te.
Image caption,
Gallwch geisio creu gemau creadigol ar gyfer eich plentyn, fel te parti i’r teganau.

3. Mae’n helpu’ch plentyn i ddysgu sut mae datrys problemau

Ydych chi erioed wedi clywed eich plentyn yn esgus bod yn ofodwr yn teithio i’r lleuad? Neu'n filfeddyg sy’n gorfod gofalu am lawer o anifeiliaid? Mae budd annisgwyl arall i chwarae dychmygol, medd Dr Halsey. “Pan fydd plant yn bod yn greadigol, maen nhw’n ymarfer rhan o’u hymennydd sy’n eu galluogi i ddatrys problemau ac i feddwl y tu allan i’r bocs. Wrth chwarae'n greadigol maen nhw’n datrys problemau ar hap, ac weithiau’n meddwl am syniadau gwych.”

Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, mae datrys problemau’n greadigol fel hyn yn help i’w datblygiad cymdeithasol hefyd. “Mae plant yn gallu defnyddio hynny i ystyried ffyrdd gwahanol y gallent fod wedi gwneud rhywbeth, yn enwedig wrth iddyn nhw fynd ychydig yn hŷn.”

A phan fydd problem yn codi, byddan nhw’n meddwl am ffyrdd creadigol o ddelio â’r peth.

Os ydy’ch plentyn yn hŷn, mae Dr Halsey yn awgrymu rhoi cynnig ar y gweithgaredd yma ar gyfer diwrnod glawog: gofynnwch i’ch plentyn feddwl am 20 ffordd o ddefnyddio eitem bob dydd, fel bricsen neu feiro. “Rhowch 10 munud i’ch plentyn feddwl am gynifer â phosibl o syniadau. Mae’n ei helpu i ddatrys problemau ac i feddwl am bethau o safbwynt arall.”

Mam yn dal tedi ac yn siarad gyda'i phlentyn ifanc.
Image caption,
Bydd canmol eich plentyn am fod yn greadigol yn ei helpu i fagu hyder.

4. Mae’n eu helpu i gael blas ar y byd

“Mae plant yn cael eu paratoi i fod yn anturiaethwyr ifanc,” medd Dr Halsey. Felly, does dim syndod eu bod yn wych am greu bydoedd newydd iddyn nhw eu hunain.

Mae chwarae dychmygol yn ymwneud â chwilfrydedd a chael blas ar bethau newydd.

“Mae’n rhoi cyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio eu chwilfrydedd a chael blas ar rywbeth nad yw’n rhan o’u bywyd bob dydd.”

Mae hefyd yn eu helpu i greu cysylltiadau rhwng geiriau a’r byd o’u cwmpas.

Mae hyn yn gyfle gwych i rieni gyflwyno gweadau a helpu’ch plentyn i enwi pethau, ychwanega Dr Halsey. “Os ydych chi’n cael picnic i'r tedis, gofynnwch i’ch plentyn pa sŵn mae’r te’n ei wneud wrth gael ei dywallt, ac ydy’r dŵr yn gynnes neu’n oer. Neu gofynnwch ydy’r tedi’n feddal neu’n bigau i gyd.”

Ble nesaf?

Trending Now