
Gwybodaeth i Rieni ac Athrawon
Mae Astro Antics yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 5-7 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1:
- Camau Cyfri (Mathemateg)
- Doctor Dot (Gwyddoniaeth)
- Peiriant Amser (Hanes)
- Y Goeden Greu (Cymraeg Mamiaith)
Adnodd Cymraeg ail iaith ydy Astro Antics. Cliciwch ar y roced er mwyn mynd at y gweithgareddau. Yna, cliciwch ar y sgriniau teledu i ddod o hyd i:
• Bliblob (creadur fydd yn eich helpu gyda geiriau a brawddegau Cymraeg)
• Tair stori liwgar a chyffrous
• Tair cân sy'n cael eu canu gan grŵp o greaduriaid rhyfedd ond cyfeillgar o'r gofod!
Defnyddiwch y lifrau a'r botymau ar y ddesg reoli i'w haddasu. Eich prif dasg yw i ddarganfod tair cân, tair stori a Bliblob.
Creadur wedi ei animeiddio yw Bliblob sy'n gallu morffio i mewn i ystyr y geiriau a brawddegau Cymraeg sy'n cael eu defnyddio yn y storïau a'r caneuon. Mae hi hefyd yn bosib defnyddio'r adnodd yma ar ei ben ei hun i ddysgu geiriau a brawddegau newydd mewn ffordd hwyliog.
Y Storïau
• O Dan y Môr
• Y Goeden Fach Oer
• Bwlis
• Y Caneuon
• Band Ffantastig Ydyn Ni (We're a Fantastic Band)• Io, io, ie, io!
• Ga i Fod yn y Band? (Can I Be in the Band?)
Mae yna weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r storïau.
Darllen stori (pob stori)
Darllenwch y stori ar gyflymdra sy'n addas i chi. Mae'r ddeialog syml yn y stori yn cynnig cyfle ardderchog i gadarnhau patrymau iaith sydd wedi eu dysgu o'r blaen. Bydd y plant yn clywed ynganiad cywir y geiriau Cymraeg yn ogystal â'r oslef gywir. Dylid eu hannog i ailddarllen y stori er mwyn cadarnhau gwybodaeth ac i ennill hyder wrth ddarllen Cymraeg.
Gwylio stori (pob stori)
Mae'r gweithgaredd yma'n rhoi cyfle i'r plant wylio'r stori gyda thestun neu hebddo. Byddan nhw'n cael cyfle i ddod i ddeall ystyr geiriau a phatrymau brawddegau gyda help lluniau, synau llythrennau a ffurfiau geiriau.
Ysgrifennu stori (Y Goeden Fach Oer ac O Dan y Môr)
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i blant ysgrifennu a dylunio stori eu hunain am gymeriadau a lleoliadau o'r storïau maen nhw newydd ddarllen. Mae gan y gweithgaredd ddwy lefel. Mae gan bob lefel ddetholiad o eiriau allweddol yn ogystal â chefndiroedd, cymeriadau a gwrthrychau o'r stori.
Gall plant ddefnyddio'r adnodd yma i ailddweud stori, ysgrifennu stori wahanol, cynllunio clawr a datblygu deialog rhwng y cymeriadau. Gall plant argraffu eu storïau a'u darllen i eraill.
Trefnu stori (Y Goeden Fach Oer)
Mae dau weithgaredd sy'n profi dealltwriaeth o'r stori:
• gosod lluniau o'r storïau yn y drefn gywir
• cwblhau 5 neu 9 o frawddegau'n gywir (mae nifer y brawddegau yn dibynnu ar eu llwyddiant yn y gêm flaenorol)
• argraffu eu gwaith ar ôl iddyn nhw orffen.
Gêm (O Dan y Môr)
Gall plant greu llong allan o'r darnau sydd wedi eu cuddio yn y gwymon a'r cwrel. Wedyn byddan nhw'n gallu lliwio ac argraffu eu llong.
Caneuon
Creaduriaid o'r gofod yw Llyg, Yng, Soch, Del a Pert a maen nhw'n canu mewn band! Maen nhw'n perfformio tair cân a gallwch chi ganu gyda nhw a hyd yn oed dewis pa eiriau maen nhw am i'r band eu canu.
Cymorth sain a gweledol
Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm 'Preferences' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrîn
• clywed y testun ar y sgrîn yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.
Dydy hi ddim yn bosib mynd at y dewisiadau tra eich bod chi yn yr adran Rhieni ac Athrawon.
Byddwch chi'n gallu symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys drwy ddefnyddio'r bysell Tab.
Bliblob
Bliblob yw eich arbenigydd ar y geiriau a'r patrymau iaith sy'n cael eu defnyddio yn y storïau a'r caneuon.
Mae dwy lefel i'r gweithgaredd yma.
1. Cliciwch ar air neu frawddeg a bydd Bliblob yn morffio i mewn i ystyr y gair neu'r frawddeg.
2. Mae Bliblob yn morffio i mewn i ystyr gair neu frawddeg. Eich tasg yw clicio ar yr ystyr cywir yn y rhestr o eiriau neu frawddegau.
Mae Bliblob yn cyflwyno:
• Rhifau
• Lliwiau
• Beth wyt ti'n wneud?
• Sut mae'r tywydd?
• Dw i'n hoffi
• Dw i ddim yn hoffi
• Bwyd
• Pwy wyt ti?
• Sut wyt ti?
• Ga i ... plis?
• Dw i eisiau.
Storiau
Stori 1 - O Dan y Môr
Darllenwch y stori hon i ddarganfod yr hyn sy'n digwydd pan fydd creaduriaid y môr yn ymweld â byd tanfor anhygoel. Mae'r plant yn mynd ar grwydr ac yn cwrdd ag ysbryd dim ond y nhw sy'n gallu ei weld!
Mae'r stori'n canolbwyntio ar:
Cwestiynau ac atebion
• Pwy wyt ti?
• ...ydw i
• Ble mae...?
• Ble mae'r cwch?
• Dyma...
• Dyma fi.
Gorchmynion
• Dewch
• Gwrandewch.
Dywediadau Cyfarwydd
• Dim diolch
• Dim problem!
• O diar!
• Hyfryd
• Bendigedig.
Stori 2 - Y Goeden Fach Oer
Mae coeden balmwydd ifanc yn cael ei chipio o wlad gynnes a'i chario i Gymru gan adael ei ffrindiau ar ôl. Mae'r tywydd yn ei diflasu ond pan ddaw'r haf mae hi yn ei helfen.
Mae'r stori'n canolbwyntio ar:
• Sut mae'r tywydd?
• Mae hi'n heulog/wyntog/oer/bwrw glaw/bwrw eira
• Dw i'n hoffi'r haul/glaw/eira/gwynt
• Dw i ddim yn hoffi'r glaw/gwynt/eira
• Dw i eisiau mynd adre'
• Dw i ddim eisiau mynd adre'
• Bore da
• Gwych
• Da iawn
• Dw i'n hapus yma.
Stori 3 - Bwlis
Stori am dri bwli o'r enw Harri, Barri a Mari yw hon. Gallwch chi ddewis dau ddiwedd gwahanol i'r stori wrth i chi ei darllen a'i gwylio.
Mae'r stori'n canolbwyntio ar:
Cyfarch
• Bore da.
Teimladau
• Sut wyt ti?
• Dw i wedi blino
• Dw i'n ofnadwy.
Gofyn
• Ga i'r ..?
• Cei / Na chei
• Dw i eisiau.
Gorchymyn
• Agor y bag
• Brysia / Brysiwch
• Dewch.
Dywediadau
• Bobol bach
• Ych â fi
• Trueni.
Caneuon
Cân 1 - Band Ffantastig Ydyn Ni
Canwch gyda'r creaduriaid o'r gofod wrth i chi wrando ar Llyg, Yng, Soch, Del a Pert yn cyflwyno eu hunain ac yn gofyn i'r lleill sut maen nhw'n teimlo.
Mae'r patrymau iaith canlynol yn y gân hon:
• Dyma ni
• ...ydyn ni
• ...ydw i
• Wir i ti
• Bore da
• Shwmai
• Sut wyt ti?
• Dw i'n ofnadwy/weddol
• Dw i wedi blino.
Mae'r gân hon yn rhoi cyfle i blant rapio gyda Soch, Yng, Llyg, Del a Pert. Mae hi'n llawn geiriau sy'n odli (sy'n gorffen gyda -io neu -o) ac mae yna symudiadau i'w gwneud!
Mae'r patrymau iaith a'r berfau canlynol yn y gân hon:
• Dw i'n hoffi
• rapio
• dawnsio
• cuddio
• neidio
• cerdded
• rhedeg
• chwarae gyda io-io
• sgipio
• dringo
• nofio
• siglo
• sglefrio.
Canwch gydag Yng, Soch, Del a Pert sydd am ymuno â band Llyg. Gwrandewch ar y gân i ddarganfod pwy sydd eisiau chwarae'r tambwrin, y gitâr, y drwm a'r piano.
Mae'r patrymau iaith canlynol yn y gân hon:
• Ga i/i'r...plis?
• Cei
• Dyma ti
• Ga i fod...?
• Un, dau, tri a ...